Ewch i’r prif gynnwys

Dosbarth 2019

24 Gorffennaf 2019

Two female and one male student wearing graduation gowns and throwing their mortar boards in the air
Graddio 2019

Cynhaliodd Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ei seremoni a derbyniad Graddio ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2019.

Cynhaliwyd y seremoni Raddio ffurfiol, ar gyfer myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a myfyrwyr PhD, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, a chynhaliwyd derbyniad yn ystod y bore ar lawnt Prif Adeilad eiconig Prifysgol Caerdydd.

Roedd hwn yn gyfle i raddedigion ddathlu gyda'i ffrindiau, teulu, a'r gyfadran, a chodi gwydr i ddathlu eu llwyddiannau.

Eleni, cafodd 35 o fyfyrwyr israddedig Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, a chafodd 33 o fyfyrwyr ragoriaeth yn eu rhaglenni a addysgir i ôl-raddedigion.

Yn ystod y derbyniad, siaradodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Paul Milbourne, am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan bob myfyriwr drwy gydol eu hastudiaethau. Siaradodd am sut roeddent wedi herio eu ffordd o feddwl, datblygu eu sgiliau beirniadol a chofleidio dadleuon rhesymegol a bywiog.

Fe wnaeth yr Athro Milbourne hefyd gydnabod y gefnogaeth, yr anogaeth a'r fentoriaeth a roddwyd gan y staff. Yn dilyn ei araith, cyflwynodd sawl gwobr ar gyfer y perfformiad academaidd gorau ar draws y rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig.

Dywedodd yr Athro Milbourne: “Graddio yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Mae'n gyfle i gydnabod gwaith caled y myfyrwyr a'u llongyfarch ar gyflawni eu graddau. Ein nod fel Ysgol yw cynhyrchu graddedigion blaengar, creadigol a chwilfrydig a fydd yn mynd allan i'r byd ac yn defnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i wella lleoedd a’r gymdeithas er lles cenedlaethau'r dyfodol. Rwy’n ffyddiog y bydd Graddedigion 2019 yn gwneud hynny, a llawer mwy. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt."

Cyflwynodd yr Athro Milbourne wobrau eleni ar gyfer y myfyrwyr a berfformiodd orau hefyd. Roedd yr ysgol yn falch o gydnabod:

  • Ellena Hodges ac Astrid Guthier a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol.
  • Sophie Jones a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio.
  • Matthew Ellis a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Daearyddiaeth (Ddynol).
  • Laurie Appleyard, Rand Irons, Mali Evans a Caitlin Ballard a berfformiodd orau ar y rhaglenni Meistr.

Graddio yw un o uchafbwyntiau'r flwyddyn academaidd ar gyfer yr Ysgol, ac mae'n cynnig cyfle i longyfarch myfyrwyr ar eu llwyddiannau, dathlu gyda'r myfyrwyr a'u teuluoedd, a dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod eu hamser yn yr Ysgol, mae'r holl fyfyrwyr wedi helpu i gyfoethogi a gwella cymuned a diwylliant yr Ysgol. Wrth i'r digwyddiadau Graddio ddod i ben am flwyddyn arall, mae'r Ysgol yn awyddus i atgoffa pawb sy'n graddio y byddant bob amser yn rhan o'r gymuned honno ac yn cael eu gwerthfawrogi fel cynfyfyrwyr. Llongyfarchiadau i Raddedigion 2019!

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.