Ewch i’r prif gynnwys

Tystiolaeth yn ‘hanfodol’ ym myd y newyddion ffug

24 Gorffennaf 2019

Science experiment

Mae tystiolaeth wyddonol yn hanfodol i lunwyr polisïau mewn byd o boblyddiaeth, ôl-wirionedd a newyddion ffug, yn ôl adroddiad gan grŵp o arbenigwyr a gydlynir gan Brifysgol Caerdydd.

Ymchwiliodd canolfan Academia Europea y Brifysgol, academi Ewropeaidd sy’n hybu rhagoriaeth mewn ysgolheictod, y broses o roi cyngor gwyddonol i lunwyr polisïau.

Dywedodd yr adroddiad, a fydd yn llywio gwaith llunwyr polisïau’r Comisiwn Ewropeaidd, y dylai cyfraniad gwyddonwyr at lunio polisïau “gael ei annog a’i werthfawrogi, yn hytrach na’i wthio i'r ochr.”

Ond pwysleisiodd yr awduron hefyd fod y berthynas rhwng cynghorwyr gwyddoniaeth a llunwyr polisïau “yn dibynnu ar adeiladu ymddiriedaeth rhwng y naill a'r llall, lle mae gwyddonwyr a llunwyr polisïau yn onest am eu gwerthoedd a’u nodau”.

Dywedodd Cadeirydd y gweithgor ar gyfer yr adroddiad, yr Athro Ortwin Renn o’r Sefydliad Astudiaethau Cynaliadwyedd Uwch yn Potsdam: “Mae galw mawr ac angen brys am gyngor gwyddoniaeth ar gyfer llunio polisïau.  

“Yn y byd sydd ohoni, gyda'r holl ‘newyddion ffug’, mae’n hanfodol ein bod yn adolygu’r dystiolaeth orau sydd ar gael a’i gyfathrebu’n glir i lunwyr polisïau a’r cyhoedd.

“Pan mae’r wyddoniaeth yn ansicr, mae’n rhaid i ni asesu ac egluro’r ansicrwydd, amwysedd a’r tensiynau hynny.  

“Rydym yn byw mewn democratiaethau, lle mae craffu cyhoeddus ac atebolrwydd gwyddonwyr a llunwyr polisïau yn anochel ac yn ddymunol, hyd yn oed.”

Tasg SAPEA (Cyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisïau gan Academïau Ewropeaidd) oedd llunio’r adroddiad,  Making sense of science for policy under conditions of complexity and uncertainty.

Canolfan Academia Europaea oedd yn cynnal ac yn rheoli'r gwaith, ac mae'r ganolfan yn chwarae rhan hanfodol o ran darparu cyngor o safon i lunwyr polisïau yn Ewrop.

Amlygodd yr adroddiad fod llawer o broblemau mwyaf enbyd y byd, fel y newid yn yr hinsawdd ac argyfwng economaidd, yn hynod o gymhleth, ac mae'r wybodaeth wyddonol yn aml yn ansicr neu’n ddadleuol.

Ond daeth yr awduron i’r casgliad y dylai gwybodaeth wyddonol “lywio dadleuon cymdeithasol a phenderfyniadau bob amser”.

Mae adroddiad adolygu tystiolaeth SAPEA ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hacademyddion ar gael ar gyfer ymgynghoriaeth, prosiectau cydweithredol a mwy.