Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyriwr cerddoriaeth yn ennill gwobr Gweithiwr Llawrydd y Flwyddyn

9 Gorffennaf 2019

Rachel Mason winning freelancer of the year

Mae cynfyfyriwr yr Ysgol Cerddoriaeth, Rachel Mason (BMus 2003), wedi cael ei enwi’n Weithiwr Llawrydd y Flwyddyn. Rachel yw’r cerddor cyntaf erioed i ennill y wobr.

Mae Rachel yn gerddor, cyfarwyddwr cerdd, trefnydd a hyfforddwr lleisiol sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei gwaith yn cynnwys bod yn feirniad ar raglen teledu Sky Sing: Ultimate A Capella. Yn fwy diweddar, mae hi hefyd wedi sefydlu Lyrical Light, gweithdy ysgrifennu caneuon sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer pobl sy’n delio ag iselder cyn geni ac iselder ôl-enedigol.

Cymeradwyodd y beirniaid Rachel ar ei holl waith caled. Ar hyn o bryd, mae Rachel yn cynnal pedwar busnes yn ogystal â gweithio yn y gymuned, yn arwain corau ac yn gweithio i helpu cerddorion ifanc i ddechrau eu gyrfaoedd.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd ei bod yn “anrhydedd ac yn fraint”.

Dywedodd Rachel ar ennill y wobr: “Roedd pawb oedd yn y rownd derfynol mor wych; ni allwn gredu bod y beirniaid wedi fy newis. Rwyf wrth fy modd yn gweithio fel llawrydd gan fod gen i’r rhyddid i ddewis sut i ddefnyddio fy amser. Os rwy’n cael fy ysbrydoli i ysgrifennu cân neu gynllunio prosiect newydd, gallaf addasu fy amserlen i roi rhwydd hynt i’m llif creadigol.

Ychwanegodd: “Fe wnaeth y beirniaid fy nghymeradwyo am gynnal fy musnesau ar y cyd â bod yn fam briod i ddau o blant (mae ein merch yn ddwy oed a’n mab yn wyth mis oed). Bod yn fam i fy mhlant a dioddef o iselder ôl-enedigol wnaeth fy ysbrydoli i sefydlu Lyrical Light.”

Mae Rachel wedi ennill £5,000 ar gyfer ei busnes, yn ogystal â marchnata arbenigol a mentora busnes gan gwmni rhyngwladol gwerth biliynau o ddoleri.

Mae Gwobrau Gweithwyr Llawrydd yn ddigwyddiad blynyddol a gyflwynir gan Gymdeithas y Gweithwyr Proffesiynol Annibynnol a Hunangyflogedig sy’n dathlu’r gorau o 4.8 miliwn o weithwyr llawrydd a hunangyflogedig yn y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.