Ewch i’r prif gynnwys

Researchers and Industry benefit from the first AI in health and care, study group workshop.

20 Mehefin 2019

Medical instruments, tweezers,. scalpel, scissors and dip bag with a medical chart.

Gwaeth y grŵp astudio hwn, a gynhaliwyd yn yr Ysgol Mathemateg dros dridiau, ddod ag ymchwilwyr ynghyd a oedd yn gweithio ar fynd i'r afael â heriau gofal iechyd gan ddiwydiant.  Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng Innovate UK, y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data (DIRI) a'i gadeirio'n lleol gan Paul Harper (MATHS a DIRI) a Steven Schockaert (Cyfrifiadureg), ynghyd â Matt Butchers, Rheolwr Trosglwyddo Gwybodaeth Mathemateg Diwydiannol yn Innovate UK/KTN.

Yn ystod y bore cyntaf, bu tri chwmni Knee Tracker, isardSAT ac Oxford Brain Diagnostics yn amlinellu eu heriau ac yn cyflwyno data. Aeth yr ymchwilwyr ati wedi hynny i ddewis pa broblem i weithio arni dros y ddau ddiwrnod a hanner nesaf, gyda'r cyflwyniadau grŵp terfynol yn cael eu cynnal yn ystod y prynhawn olaf. Roedd y problemau yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Dysgu Peiriannol ar gyfer Rhagfynegi Osteoarthritis Gwell (Knee Tracker)
  • AI ac Edrych ar y Byd er mwyn Rhagfynegi Risg o Achosion Malaria (isardSAT)
  • Cywiriad Maes Tuedd Gwell mewn MRI Drwy Ddysgu Peiriannol (Oxford Brain Diagnostics)

Ymunodd Clement Twumas (myfyriwr PhD blwyddyn gyntaf yr Athro Owen Jones) â grŵp Knee Tracker gydag Andrey PepelyshevYoyo Zhou(MEDIC), yr Athro Irena Spasic (COMSC a DIRI) a Shameem Sampath (Llawfeddyg Pen-glin). Isod ceir dolen i'r cyflwyniad sydd wedi'i symleiddio fel bod modd i arbenigwyr modelu a'r rhai nad ydynt yn modelu, yn ogystal ag arbenigwyr nad ydynt yn dechnegol, ddeall dulliau gweithredu Dysgu Peiriannol neu Ddeallusrwydd Artiffisial i ddatgelu canfyddiadau cudd ar gyfer unrhyw ddata a roddir.

https://drive.google.com/file/d/1dB1NWrw9d2mUhlFO-2kUVCdfpIi3FgtD/view?ts=5ce94852

Cafodd y rhai a oedd yn cymryd rhan dridiau pleserus a chynhyrchiol, gan fwynhau gweithio ar broblemau meddygol pwysig ac, yn y pen draw, helpu'r cwmnïau i dreiddio ymhellach gan ddefnyddio gwyddor data a dulliau modelu. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad tebyg yn 2020.

Rhannu’r stori hon