Ewch i’r prif gynnwys

Camau cyntaf at ymchwil

13 Mehefin 2019

Llun o Holly Parfett a Myfanwy Morgan Jones
Holly Parfett a Myfanwy Morgan Jones

Mae Myfanwy Morgan Jones a Holly Parfett, sy'n fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn dathlu cyhoeddi eu papur ymchwil cyntaf erioed.

Cyhoeddwyd y papur, â'r teitl Home-grown foreign language anxiety: Experiences of Welsh university students studying through the medium of English yn y Wales Journal of Education ym mis Mawrth 2019.

Yn ystod ail flwyddyn eu graddau israddedig, aeth Myfanwy a Holly ati wrth astudio modiwl Dulliau Ymchwil, i ymchwilio canfyddiad myfyrwyr Cymreig oedd wedi cwblhau eu haddysg gynradd ac uwchradd yn Gymraeg o'u profiad prifysgol israddedig o'u cymharu â'r rheini a gwblhaodd eu haddysg ffurfiannol yn Saesneg.

Roedd hwn yn faes yr oedd gan Myfanwy a Holly wybodaeth a phrofiad uniongyrchol ohono ac un yr oedden nhw'n teimlo oedd yn "arbennig o berthnasol o safbwynt cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol, o ystyried ffocws Cymru ar gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Gan ddefnyddio holiaduron ar-lein ac wyneb yn wyneb, arolygwyd 125 o fyfyrwyr israddedig Cymraeg oedd yn astudio mewn prifysgolion yng Nghymru ynghylch eu cefndir academaidd, a thri maes allweddol yn eu profiad prifysgol: presenoldeb, cefndir a boddhad.

Dangosodd y canlyniadau fod myfyrwyr a addysgwyd yn bennaf yn Gymraeg yn llai tebygol o gyfrannu mewn trafodaethau na'u cymheiriaid oedd â Saesneg yn iaith gyntaf - un o ganlyniadau cyffredin gorbryder iaith dramor. Er nad oedd yn ymddangos bod yr anghysur a'r diffyg hyder hwn yn effeithio ar raddfeydd boddhad, gallai fod yn gysylltiedig, ac arwain at rwystrau a heriau pellach o ran iechyd meddwl, perfformiad academaidd a chyfleoedd ar ôl graddio.

Roedd Myfanwy a Holly yn awyddus i rannu'r canfyddiadau ac annog rhagor o drafodaeth am y materion a godwyd. Treulion nhw haf 2018 yn drafftio ac ailddrafftio erthygl ar sail eu hymchwil dan arweiniad Dr Maxwell Hartt.

Gwnaeth eu proffesiynoldeb a'r ffordd roedden nhw wedi meithrin a datblygu sgiliau newydd drwy gydol y broses ymchwil a pharatoi'r papur argraff dda ar Dr Hartt:

"Yn aml mae myfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol yn 'quant-ffobig' ac wedi derbyn nad yw mathemateg yn rhywbeth iddyn nhw, sy’n syniad rwyf i'n ei wrthod yn llwyr. Yn y pen draw, offerynnau yw dulliau ymchwil. Dyw ansoddol neu feintiol ddim wir yn bwysig. Mae cynnal ymchwil yn ymwneud â chanfod, ac adrodd straeon.

Aeth yn ei flaen: "Er na fyddai Holly na Myfanwy yn eu labelu eu hunain yn arbennig o gryf mewn pynciau meintiol, dangoson nhw ddealltwriaeth dda o adrodd stori a sut i holi (ac ateb) cwestiynau. Dyna beth a ffurfiodd ac a lywiodd eu hymchwil a'r papur maen nhw wedi'i gyhoeddi’n ddiweddar. Gweithion nhw'n galed i ysgrifennu a mireinio'r papur, gan wrando ar adborth, a'u herio eu hunain i ddatblygu a gwella eu naratif gyda phob drafft newydd. Mae hwn yn gyflawniad sylweddol i ddwy fyfyrwraig israddedig ac yn dyst i'w hymrwymiad a'u hetheg gwaith. Roedd yn bleser gweithio gyda nhw a'u cefnogi."

Darllenwch y papur llawn a blog Myfanwy a Holly am y daith at gyhoeddi.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.