Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant myfyrwyr ar gwrs Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3)

13 Mehefin 2019

PgDip Prizes
Prizewinners Bianca Dumea and Timothy Smith

Mae dau fyfyriwr ar y cwrs Pensaernïaeth : Ymarfer Proffesiynol (Dip Ôl-radd) wedi derbyn gwobrau o fri yn ddiweddar am eu gwaith

Mae Bianca Dumea wedi derbyn Gwobr Stanley Hall Cox am y myfyriwr Diploma gorau, a roddwyd gan Stride Treglown. Dyfarnwyd gwobr Cymdeithas y Gyfraith Adeiladu i Timothy Smith am y perfformiad gorau yn y modiwl Contractau Adeiladu.

Dywedodd yr Athro Sarah Lupton, Cadeirydd Personol a Chyfarwyddwr y Cwrs: “Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd eleni gan gynnwys tiwtoriaid, cyflwynwyr seminar ac arholwyr am eu cymorth i sicrhau bod hwn yn gwrs amserol a bywiog. Rydym wedi cael adborth ardderchog gan y myfyrwyr.”

Bwriad Pensaernïaeth:  Ymarfer Proffesiynol (Dip Ôl-radd) yw i bobl ymgymryd â hi tra’n gweithio’n amser llawn mewn practis pensaernïol neu sefydliad cysylltiedig yn y diwydiant adeiladu  Caiff y rhaglen ei haddysgu drwy ddulliau dysgu cyfunol gan ddefnyddio'r rhyngrwyd, a ategir gan gyrsiau byr ar y safle yng Nghaerdydd.

Ar y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r agweddau cyfreithiol ac economaidd ar ymarfer pensaernïol a chaffael gwaith adeiladu, yn ogystal â’r sgiliau perthnasol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer yn effeithiol wrth ddechrau ar yrfa ym maes pensaernïaeth.

Ar hyn o bryd mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn croesawu ceisiadau ar gyfer y Meistr mewn Gweinyddiaeth Dylunio, a'r Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (Dip Ôl-radd), y ddau wedi'u cyfarwyddo gan yr Athro Sarah Lupton.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y rhaglenni uchod, cysylltwch â’r Athro Lupton - lupton@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon