Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleuster gofal llygaid newydd yn agor

21 Hydref 2015

eye clinic opening
Left-Right: First Minister for Wales, Carwyn Jones; Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan; Professor Marcela Votruba; Dame Mary Perkins; Doug Perkins

Cyfleuster newydd I hybu gofal yn gymuned

Mae cyfleuster gofal llygaid newydd, i helpu i gynyddu nifer y cleifion y gall optometryddion yn y gymuned eu gweld, wedi ei agor yn swyddogol.

Bydd y Cyfleuster Ymchwil Clinigol ac Addysgol newydd wedi'i leoli yn Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd, a bydd yn darparu gwell cyfleoedd dysgu, hyfforddiant ac addysg ar gyfer gweithwyr gofal llygaid proffesiynol, o ran sgiliau mwy arbenigol megis glawcoma, rheoli dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran, diabetes a gofal llygaid brys.

Mae iechyd llygaid gwael yn broblem gyffredin a chynyddol yng Nghymru, gan fod y boblogaeth yn heneiddio. Bydd yr achosion o golli golwg yn cynyddu 22% erbyn 2020, ac yn dyblu erbyn 2050.

Bydd y buddsoddiad gan Brifysgol Caerdydd yn darparu 12 o glinigau newydd, ardal addysgu ac offer delweddu a lamp hollt fideo modern. Bydd hefyd yn cynnig ardaloedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr gofal llygaid proffesiynol, er mwyn iddynt ennill mwy o brofiad clinigol ymarferol i'w galluogi i ddarparu mwy o wasanaethau allweddol i gleifion mewn lleoliad gofal sylfaenol.

Bydd hyn yn golygu y bydd optometryddion cymunedol yn gallu darparu mwy o wasanaethau clinigol i gleifion a fyddai wedi gorfod mynd i ysbyty llygaid fel arall.

Dywedodd yr Athro Marcela Votruba, Pennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg: "Sefydlwyd y Cyfleuster Ymchwil Clinigol ac Addysgol mewn ymateb i'r galw cynyddol am gyfleoedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal llygaid proffesiynol, sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol ac sy'n chwilio am hyfforddiant clinigol ymarferol amhrisiadwy.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella ein cefnogaeth yn sylweddol ar gyfer datblygiad proffesiynol gweithwyr gofal llygaid proffesiynol sy'n ymarfer yng Nghymru, y DU a thu hwnt.  Bydd hefyd yn atgyfnerthu ein safle blaenllaw ym maes addysg optometreg ôl-raddedig, ac yn darparu amgylchedd unigryw ar gyfer gwaith ymchwil clinigol o safon uchel ar draws meysydd optometreg, gwyddorau'r golwg ac offthalmoleg."

Bydd y cyfleuster hefyd yn gwella ymchwil glinigol ac yn hwyluso'r broses o recriwtio cleifion i raglenni ymchwil glinigol yn yr Ysgol.

Bydd clinigau hefyd yn darparu mannau neilltuol ac offer i archwilio cleifion sy'n cymryd rhan mewn gwaith ymchwil i achosion clefydau ar y llygaid, a'u heffaith.

O ganlyniad, bydd yr Ysgol yn denu mwy o dreialon ymchwil clinigol, sy'n golygu y bydd mwy o gleifion yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, ac elwa ar ganlyniadau arloesol y gwaith ymchwil hwn.

Ers 2002, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg i ddarparu rhaglen hyfforddi ac achredu i dros 500 o optometryddion ledled Cymru, drwy Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru. Datblygwyd y model arloesol o ofal llygaid cymunedol yng Nghymru mewn ymateb i'r angen i optometryddion ehangu'n gynyddol y gwasanaethau maent yn eu cynnig yn y gymuned, i leihau'r angen i ymweld ag ysbytai a meddygon teulu. 

O ganlyniad, mae gwasanaethau gofal llygaid gwell yng Nghymru na'r rhan fwyaf o weddill y byd, felly mae gweithwyr gofal llygaid proffesiynol yn ystyried Cymru yn gartref i'r arbenigwyr.

Wrth siarad yn seremoni agoriadol y ganolfan, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae'n bleser gen i agor y cyfleuster gofal llygaid newydd arbennig hwn ym Mhrifysgol Caerdydd.  Bydd y ganolfan hon yn ein helpu i ddarparu gwell gofal drwy'r GIG i bobl Cymru, drwy well cyfleoedd o ran datblygiad proffesiynol ar gyfer ein gweithlu optometreg, a thrwy waith ymchwil sy'n arwain y byd.  Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol."