Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth cysylltiad genom-gyfan yn canfod 30 o enynnau sy’n gysylltiedig ag Anhwylder Deubegynol

9 Mai 2019

Genetic fingerprint

Mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr wedi canfod 30 rhan o’r genom dynol lle gall amrywiadau yn y côd genetig gynyddu’r risg o ddatblygu anhwylder deubegynol.

Fe wnaeth yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan grŵp gwaith Anhwylder Deubegynol y Consortiwm Genomeg Seiciatrig, gymharu amrywiadau genetig mewn dros 29,000 o bobl gydag anhwylder deubegynol, gan gynnwys mwy na 4,000 o bobl o’r Rhwydwaith Ymchwil ar gyfer Anhwylder Deubegynol (BDRN), a 160,000 nad oes arnynt y cyflwr hwn.

Fe wnaeth hyn gynnwys dadansoddiad systematig o gannoedd o filoedd o ddangosyddion genetig er mwyn canfod parthau cromosomaidd a gysylltir â risg anhwylder deubegynol.

Dywedodd Dr Arianna Di Florio, Uwch-ddarlithydd Clinigol yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg: “Mae ein dadansoddiadau wedi ein harwain at enynnau sy’n berthnasol i’r systemau nerfol, imiwnedd a metabolaidd.

“Canfuom hefyd wahaniaethau yng nghyfansoddiad genetig unigolion gyda deubegynedd I, nad oes ganddynt hanes o byliau manig, a’r rheiny â deubegynedd II, nad ydynt yn profi pyliau mor ddifrifol.”

Dangosodd astudiaethau pellach fod deubegynedd I yn rhannu cysylltiad genetig cryf â sgitsoffrenia, tra bo deubegynedd II wedi ei gysylltu yn gryfach ag anhwylder pruddglwyfus difrifol.

Bydd y canlyniadau hyn yn arloesi’r ffordd ar gyfer astudiaethau dwysach o’r parthau genetig a amlygwyd, gan ganfod, o bosib, y genynnau penodol sydd ar waith yn natblygiad anhwylder deubegynol.

Yn y pen draw, gobeithiwn y bydd ein hymchwiliadau’n arwain at well dealltwriaeth o’r mecanweithiau moleciwlaidd sy’n waelodol i anhwylder deubegynol. Dylai hyn arwain at ddatblygu triniaethau newyddach, mwy effeithiol a phenodol a fydd, gobeithio, yn golygu gwell canlyniadau i’r bobl yr effeithir arnynt gan y salwch meddwl difrifol hwn.

Yr Athro Arianna Di Florio Athro, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Dywedodd Yr Athro Ian Jones, prif ymchwilydd y BDRN a’r Canolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Roedd hwn yn ymdrech gwir ryngwladol, a oedd yn cynnwys ymchwilwyr o dros 200 o sefydliadau a data o dros 32 o garfannau ar draws Ewrop, Gogledd America, ac Awstralia.

“Ni fyddai’r canlyniadau hyn wedi bod yn bosib heb i gynifer o bobl roi eu hamser i gymryd rhan mewn ymchwil a rhoi samplau biolegol, felly ar ran y grŵp gwaith, hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gyfrannu at y gwaith hwn.”

Cyhoeddir y papur, Genome-wide association study identifies 30 loci associated with Bipolar Disorder, yn Nature Genetics.

Rhannu’r stori hon