Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion yn cael eu hanrhydeddu

1 Mai 2019

Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa
Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi 11 academydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith y Cymrodyr etholedig newydd.

Mae deugain ac wyth o Gymrodyr newydd wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru eleni o feysydd ar draws y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a thu hwnt. Mae’r Cymrodyr newydd oll wedi cyfrannu at fyd dysg fel ymchwilwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol – ac mae gan bob un gysylltiad cryf â Chymru.

Meddai'r Athro Stuart Palmer, Cadeirydd y Cyngor, ac un o gymrodyr etholedig eleni: “Mae'n anrhydedd mawr bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi fy nghydnabod i a nifer o'm cydweithwyr yn y Brifysgol.

“Mae'r Gymdeithas yn chwarae rôl hanfodol o ran hyrwyddo ymchwil y genedl a gwneud y mwyaf o'i chyrhaeddiad. Edrychaf ymlaen at gyfrannu at y gwaith pwysig hwn ochr yn ochr â grŵp nodedig o bobl sydd wedi gwneud cyfraniad mor sylweddol at ddatblygu a chymhwyso ymchwil Cymru.”

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.

Y rheini sy’n ymuno â’r Gymrodoriaeth eleni yw:

  1. Yr Athro Davide Bonifazi, Athro Cemeg Uwchfoleciwlaidd yn yr Ysgol Cemeg
  2. Yr Athro Samuel Evans, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg
  3. Yr Athro Sophie Gilliat-Ray, Athro mewn Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Diwinyddol, a Chyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Islam yn y DU (Islam-UK)
  4. Yr Athro David Wyn Jones, Athro yn yr Ysgol Cerddoriaeth
  5. Yr Athro Simon Jones, Deon Ymchwil, ac Arweinydd Thema Haint, Llid ac Imiwnedd
  6. Yr Athro Malcolm Mason, Athro yn yr Ysgol Meddygaeth
  7. Yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
  8. Yr Athro Bernhard Moser, Athro yn yr Ysgol Meddygaeth
  9. Yr Athro Stuart Palmer, Cadeirydd y Cyngor
  10. Yr Athro Ian Weeks, Deon Arloesi Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth
  11. Yr Athro Susan Wong, Athro Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru “Rwyf i wrth fy modd yn croesawu 48 o Gymrodyr newydd i’r Gymdeithas. Mae eu hetholiad yn cydnabod eu llwyddiannau unigol a’u cyfraniadau i fyd dysg ac rwyf i’n falch eu bod yn cwmpasu’r fath rychwant o ddisgyblaethau ymchwil a thu hwnt. Bydd ychwanegu’r Cymrodyr newydd hyn yn cryfhau ein gallu i hyrwyddo rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus yng Nghymru a thramor.”

Rhannu’r stori hon

Dysgwch sut mae ein hymchwil arloesol yn cael effaith yn fyd-eang.