Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen atal cyffuriau dan arweiniad cyfoedion

23 Ebrill 2019

School girls sat around table

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bryste yn cynnal y rhagbrawf mwyaf erioed o raglen atal cyffuriau dan arweiniad cyfoedion, mewn ysgolion ar draws de Cymru a gorllewin Lloegr.

Cynhelir FRANK Friends dros 3 blynedd ar draws 48 o ysgolion a bydd yn cynnwys oddeutu 5,655 o fyfyrwyr. Bydd y rhagbrawf yn gwerthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd rhaglen dan arweiniad cyfoedion ar gyfer atal defnyddio cyffuriau ymysg pobl ifanc.

Gofynnir i fyfyrwyr Blwyddyn 9 (rhwng 13-14 oed) enwebu myfyrwyr eraill y maent yn eu hystyried yn ddylanwadol, a gofynnir i’r 17.5% o enwebiadau uchaf fod yn gefnogwyr cyfoedion. Ar ôl dau ddiwrnod o hyfforddiant, gofynnir i’r disgyblion a ddewisir drafod y ffyrdd posibl y gall defnyddio cyffuriau fod yn niweidiol â’u cyfoedion dros gyfnod o 10 wythnos.

Dywedodd arweinydd yr astudiaeth a’r Prif Ymchwilydd, Dr James White o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd a DECIPHer: “Mae prinder o dystiolaeth bod ymyriadau atal defnyddio cyffuriau’n effeithiol. Mae’r data diweddaraf o’r DU yn nodi bod 37% o blant 15 oed wedi profi cyffur anghyfreithiol a chafodd dros 13,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed driniaeth am gyffuriau yn y DU.

“Mae ysgolion yn cynnig dull systematig ac effeithlon o ymgysylltu â nifer fawr o bobl bob blwyddyn. Y treial hapsamplu rheolyddedig hwn yw’r ffordd orau o ganfod a yw ymyriad FRANK friends yn atal y defnydd o gyffuriau ymysg pobl ifanc.”

Bydd yr ysgolion yn cael eu rhannu ar hap rhwng dau grŵp a bydd 24 o ysgolion yn cael FRANK friends, a bydd 24 eraill yn parhau yn yr ysgol heb yr ymyriad. Bydd y tîm ymchwil yn casglu gwybodaeth am y defnydd o gyffuriau ymysg yr holl ddisgyblion sy’n cymryd rhan, cyn ac ar ôl y rhaglen i weld a geir newidiadau positif yn y defnydd o gyffuriau ymysg disgyblion, ac a yw’r newidiadau hyn yn fwy mewn ysgolion a gafodd yr ymyriad o’u cymharu â’r ysgolion hebddo. Hefyd, byddant yn cyfweld â chefnogwyr cyfoedion, disgyblion eraill a hyfforddwyr, ac yn arsylwi sesiynau hyfforddiant er mwyn ystyried beth ddigwyddodd yn ystod yr hyfforddiant, sut mae pobl yn teimlo am yr ymyriad, ac ym mha ffyrdd mae wedi bod yn ddefnyddiol. Yn olaf, byddant yn cyfrifo cost yr ymyriad, ac yn pwyso a mesur hyn yn erbyn unrhyw fanteision o ran lleihau’r defnydd o gyffuriau ymysg disgyblion, i weld a yw’n cynnig gwerth da am arian.

Mae’r treial yn adeiladu ar astudiaeth beilot lwyddiannus, lle cafodd rhaglen atal ysmygu dan arweiniad cyfoedion mewn ysgolion (ASSIST) ei haddasu i gyflwyno gwybodaeth o wefan addysg cyffuriau genedlaethol y DU: www.talktofrank.com. Roedd disgyblion, athrawon a rhieni i gyd yn credu bod yr ymyriad yn dderbyniol ac yn hawdd i’w gyflwyno, ac y gallai gael effeithiau addawol ar atal a lleihau’r defnydd o gyffuriau.

Mae partneriaid yr astudiaeth yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgolion Bryste, Glasgow, Caer Efrog, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhwydwaith Ymchwil Glinigol Gorllewin Lloegr, Cyngor De Swydd Gaerloyw a Chaerfaddon a Gogledd Dwyrain Gwlad-yr-Haf. Ariennir FRANK Friends gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), Rhaglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus.

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.