Ewch i’r prif gynnwys

Gradd Meistr newydd mewn Athroniaeth

17 Ebrill 2019

Gradd ôl-raddedig â gwedd newydd ar gael ar gyfer 2019

Mae'r radd ôl-raddedig a addysgir sydd newydd ei dyfeisio bellach ar agor am geisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20.

Gan gwmpasu amrywiadau athroniaeth ddadansoddol, gyfandirol ac empirig, mae'r Meistr mewn Athroniaeth yn cynnig dealltwriaeth o ehangder y ddisgyblaeth ac yn adlewyrchu'r ystod lawn o gryfderau ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yng Nghaerdydd.

Nod y rhaglen newydd yw datblygu gwybodaeth am faterion athronyddol, technegau allweddol a'r gallu i ddadansoddi testunau o wahanol fathau. Caiff yr addysgu ei gyflwyno gan athronwyr sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol am eu gwaith ym mhob maes modiwl, mewn grŵpiau bach anffurfiol, gan annog cyfranogiad a thrafodaeth lawn.

Gall myfyrwyr ddisgwyl derbyn sylfaen gadarn yn y ddisgyblaeth ac archwilio'r amrywiol fathau o drafodaeth athronyddol, dadansoddi beirniadol ac arddulliau ysgrifennu, drwy ddadansoddi trafodaethau cyfredol a gweithiau pwysig yn hanes athroniaeth.

Dywedodd y Pennaeth Athroniaeth, yr Athro Jonathan Webber, sydd hefyd yn gwasanaethu ar hyn o bryd fel Llywydd Cymdeithas Damcaniaeth Foesegol Prydain a Chymdeithas Sartre y DU:

"Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y sgiliau i dynnu materion ynghyd a'u harchwilio ar draws meysydd epistemoleg, athroniaeth foesol, ac athroniaeth y meddwl, ac archwilio'r cysylltiadau rhyngddynt. Byddwn yn ceisio datblygu eich gwybodaeth a'ch technegau athronyddol a'ch gallu i gyfleu syniadau cymhleth a allai fod yn ddadleuol yn greadigol ac yn glir, sgiliau y mae galw mawr amdanynt mewn gyrfaoedd ar draws pob sector yn yr economi yn ogystal ag yn y byd academaidd."

Caiff myfyrwyr ar y rhaglen radd hon eu hannog i gyfranogi yn rhaglen siaradwyr ymweliadol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol, seminarau ôl-raddedig ar waith sy'n mynd rhagddo, Cynhadledd Athroniaeth Flynyddol Cymru yn Neuadd Gregynog, ac amrywiol grwpiau darllen, gweithdai a chynadleddau rheolaidd gan ein cymuned ymchwil cefnogol.

Gosodwyd Athroniaeth yng Nghaerdydd yn bedwerydd am effaith ei hymchwil yn REF2014, yr ymarfer asesu ymchwil diweddaraf.

Mae'r MA mewn Athroniaeth ar gael ar sail lawn amser a rhan amser, gydag ymgeisio ar-lein yn cynnwys gwybodaeth berthnasol am ysgoloriaethau megis Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr y Brifysgol.

Rhannu’r stori hon