Ewch i’r prif gynnwys

Dewis ysgol ddim yn sicrhau cymysgedd cymdeithasol ar draws ysgolion

25 Ebrill 2019

Primary school pupils with hands in the air

Mae astudiaeth newydd wedi canfod bod dewis ysgolion yn gysylltiedig â lefelau uwch o arwahanu ymysg plant ysgol o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac ethnig.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste, a ariennir gan Sefydliad Nuffield, yn dangos bod systemau sy’n seiliedig ar ddewis ysgolion yn gysylltiedig â lefelau uwch o arwahanu ymysg disgyblion, yn hytrach na hybu integreiddio a chyfleodd cyfartal. Gallai hyn arwain at ysgolion sy’n fwy homogenaidd o ran eu cyfansoddiad cymdeithasol. Dyma ganfyddiad cyson ar draws gwahanol systemau o ddewis ysgolion yn rhyngwladol. Mae ymchwilwyr yn dweud bod hyn yn amlygu’r angen i lunwyr polisïau ailystyried effeithiau'r polisïau ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion.

Mae dewisiadau’r rhieni yn rhan o’r system addysg yng Nghymru a Lloegr ers 1988 a dyma’r un hen drefn a geir mewn gwledydd megis yr Unol Daleithiau, Chile ac ar draws Ewrop.

Nod yr astudiaeth hon oedd cyfrannu at y drafodaeth ynghylch effeithiau'r mecanweithiau derbyn disgyblion ar sail dewis ar sut mae disgyblion yn cael eu dyrannu, ac ar gyfansoddiad ysgolion, drwy gynnal adolygiad systematig, rhyngwladol a thrawsbynciol.

Mapiodd yr ymchwilwyr y dystiolaeth sy’n cysylltu dewisiadau rhieni â’u cyd-destunau sefydliadol (polisïau derbyn disgyblion), a deilliannau’r broses honno o ran sut dyrennir disgyblion rhwng ysgolion.

Un o ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth oedd bod y dewis o ysgol yn gyson gysylltiedig â lefelu uwch o arwahanu rhwng disgyblion ac ysgolion, mewn gwahanol wledydd ac ar draws systemau dewis a gynhelir ers gwahanol gyfnodau.

Hefyd, mae’r ymchwil wedi dangos bod ffactorau lleol megis cyfansoddiad cymdeithasol y gymdogaeth, maint dalgylch yr ysgol a nifer yr ysgolion mewn ardal yn effeithio ar sut mae gwahanol fathau o ddisgyblion yn cael eu dyrannu i wahanol ysgolion.

Rhybuddiodd cyd-awdur y papur, yr Athro Gary Bridge o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd fod llawer o ffactorau ar waith mewn gwahanol gyd-destunau daearyddol, ac felly mae’n anodd cyffredinoli’r canfyddiadau.

Mae’r rhesymau dros y patrymau o arwahanu a arsylwir yn gyd-destunol iawn ac yn cynnwys y cymysgedd o ysgolion, patrymau demograffig-gymdeithasol a mecanweithiau penodol o ddewis, ynghyd â thueddiadau’r rhieni. Mae angen i lunwyr polisïau fod yn sensitif i’r materion cyd-destunol hyn.

Yr Athro Gary Bridge Professor of Human Geography

Argymhellodd yr ymchwilwyr y dylai'r derbyniadau gael eu cydlynu gan awdurdod lleol, neu awdurdod ar lefel gyfatebol, yn hytrach na’u gadael i ddisgresiwn ysgolion unigol.

Dywedodd Deborah Wilson, Athro Polisi a Rheolaeth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bryste a chydawdur yr astudiaeth: “Rydym eisoes yn gwybod bod blynyddoedd ysgol plant yn llywio cyfleoedd plant yn y dyfodol i raddau helaeth. Mae’r mecanweithiau sy’n dyrannu disgyblion i ysgolion yn chwarae rhan sylfaenol o ran llywio mynediad at gyfleoedd addysgiadol cyfartal. Yr hyn mae ein hastudiaeth yn ei ddangos yw nad yw rhoi'r dewis i ysgolion, er gwaethaf ei boblogrwydd gwleidyddol, yn bolisi addas ar gyfer cynyddu integreiddiad disgyblion ar draws ysgolion."

Mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar yr adroddiad: School choice and equality of opportunity: an international systematic review. Mae'r adroddiad llawn ar gael yma

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.