Myfyriwr ôl-raddedig yn cipio gwobr ryngddisgyblaethol
9 Ebrill 2019
Ymgeisydd PhD Llenyddiaeth Saesneg yn ennill Gwobr Dewis y Bobl Chwalu Ffiniau.
Mae Zainab Alqublan, o Sawdi-Arabia, yn gwneud PhD ar farddoniaeth a darluniadau’r Dwyrain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dan oruchwyliaeth yr Athro Llyfryddiaeth Bill Bell a Dr Becky Munford, Darllenydd mewn Llenyddiaeth Saesneg.
Dangoswyd ei phoster arobryn The Poetic and Pictorial East in the Nineteenth-Century Europe yn y gynhadledd eleni yng Nghaerdydd ar 19 Mawrth.
Dywedodd Zainab: “Cefais fy ysbrydoliaeth gan y paentiadau a'r darluniau Dwyreinydd trawiadol o destunau llenyddol ar wasgar mewn amgueddfeydd ledled Prydain, Ffrainc, a Gwledydd y Gwlff. Mae fy mhroject yn ymdrin â'r artistiaid, y teithwyr, a’r beirdd hynny a ddewisodd amharu ar gonfensiynau llenyddol ac artistig eu hamser i gyflwyno persbectif amgen ar y Dwyrain Fictoraidd. Trwy wneud hynny, mae'r astudiaeth yn ceisio adeiladu pont, yn hytrach na wal, rhwng y ddau ddiwylliant hyn.”
Mae Chwalu Ffiniau yn gynhadledd ryngddisgyblaethol flynyddol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn y gynghrair GW4 (Great Western 4) y consortiwm o bedair prifysgol ymchwil ddwys yng Nghymru a de-orllewin Lloegr a ffurfiwyd yn 2013.
Mae modd astudio Llenyddiaeth Saesneg yn y Brifysgol ar lefel israddedig gan gynnwys Cydanrhydedd gydag Iaith Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol yn ogystal ag ar lefelymchwil ôl-raddedig.