Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cael £1.3 miliwn o gyllid KESS2

5 Ebrill 2019

Postgraduate student working

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill £1.3 miliwn yn rhan o raglen gyllido Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS2) gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Mae’r cynllun ymchwil yn creu partneriaethau rhwng busnesau a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ysgogi datblygiad economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol drwy ymchwil arloesol.

Caiff rhaglen KESS2 ei harwain gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill o Gymru.

O’i gymharu â chynllun blaenorol KESS2, a oedd yn canolbwyntio ar ogledd a gorllewin Cymru, yn ogystal â’r Cymoedd, bydd y dyraniad grant newydd yn rhoi cyfle i Brifysgolion Cymru ymwneud â gwaith ar y cyd â phartneriaid diwydiannol o ardal gorllewin Cymru (Caerdydd; Fflint; Sir Fynwy; Casnewydd; Powys; Bro Morgannwg; Wrecsam).

Bydd yr arian yn cefnogi 25 o raglenni ar lefel PhD a 15 ar lefel Gradd Meistr dros y tair blynedd nesaf. Mae Caerdydd eisoes wedi cytuno ar 18 prosiect PhD, ac yn recriwtio myfyrwyr i weithio ar y cyd â phartneriaid o Fentrau Busnes Modern, y sector cyhoeddus a sefydliadau Bwrdd Iechyd.

ERDF logo final

Meddai’r Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter:
“Mae’r cynllun yn parhau i fod yn enghraifft o sut y mae academyddion, myfyrwyr a sefydliadau allanol Prifysgol Caerdydd yn gallu cydweithio i ddatblygu a chynnig prosiectau ymchwil arloesol a mentrus, sy’n fuddiol i bawb ac sydd ag effaith rhanbarthol ehangach.”

Mae rhaglen KESS2 yn cefnogi myfyrwyr PhD ac yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau.

Mae Josh Davies, o'r Ysgol Cemeg, yn fyfyriwr PhD yn ei drydedd flwyddyn, sy’n cael ei ariannu drwy’r rhaglen. Mae ei ymchwil yn archwilio nanoronynnau mewn partneriaeth â Cotton Mouton Diagnostics Limited.

Dywedodd Josh: “Mae gan KESS ffocws enfawr ar ddatblygiad proffesiynol, o ran hyrwyddo cysylltiadau diwydiannol yn ogystal â hyfforddiant. Mae gweithio mor agos gyda chwmni wedi fy helpu i ddatblygu cryn dipyn fel gwyddonydd. Yn aml, mae’n bosibl na fydd gwaith sy’n digwydd mewn labordy yn cyrraedd y cam masnacheiddio, ond bydd fy holl waith yn cael ei ddefnyddio yn fy achos i. Mae hyn hefyd yn golygu bod yn rhaid bod yn realistig gydag amodau, costau ac amser. Mae unrhyw ddulliau rwy’n eu creu yn gorfod gallu cael eu defnyddio ar raddfa fwy, yn addas i fyd diwydiant."

Dylai academyddion, myfyrwyr a sefydliadau partner sydd â diddordeb mewn gwneud cais am ysgoloriaeth ymchwil fynd i wefan KESS2 i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon

Dewch i gwrdd â'r arloeswyr sy'n defnyddio ymchwil arloesol i greu manteision ar gyfer yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd.