Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnu grant i ddatblygu map perfformio Carmen gan Bizet

28 Mawrth 2019

Illustrated map of Paris monuments

Dyfarnwyd grant BA/Leverhulme o £10,000 i Dr Clair Rowden o'r Ysgol Cerddoriaeth i barhau ag ymchwil i berfformiadau byd-eang o Carmen gan Bizet.

Caiff y grant ei ddefnyddio i ddatblygu CarmenAbroad.org, llwyfan ar-lein sy'n cynnig golwg fyd-eang ar berfformiadau o opera eiconig Bizet dros gyfnod o saith deg o flynyddoedd, o’r premiere ym Mharis yn 1875 hyd at 1945. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys gwybodaeth am yn agos i 600 o gynyrchiadau, o Tokyo i Rio de Janiero, Helsinki i Melbourne, Bordeaux i New Orleans.

Deilliodd CarmenAbroad.org yn wreiddiol o gynhadledd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2017, lle rhannodd dros 20 o ysgolheigion rhyngwladol eu data ymchwil i ddangos y ffyrdd roedd Carmen wedi teithio ar draws y byd. Bydd y cyhoeddiad ategol arfaethedig, Carmen Abroad, a gyd-olygir gan Clair Rowden a Richard Langham Smith yn dadansoddi'r ffyrdd gwahanol y gosodwyd, mabwysiadwyd neu y defnyddiwyd Carmen (o ran perfformiad a derbyniad) i greu a negodi ystyron a chyd-destunau lleol penodol.

Caiff y Grant BA/Leverhulme ei ddefnyddio hefyd i gynnal Diwrnod Astudio Mapio Cerddorol rhyngwladol ar 18 Mehefin 2019 fydd yn croesawu academyddion i ymchwilio i’r hyn y gall mapio perfformiadau, perfformwyr a gofodau perfformio ar draws dinasoedd, gwledydd a'r byd mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes, ei ddatgelu am y ffyrdd y caiff diwylliant cerddorol ei greu, ei ledaenu a'i ddefnyddio. Bydd map Carmenabroad.org wrth wraidd y trafodaethau hyn.

Wrth siarad am y grant, dywedodd Dr Rowden: "Bydd y grant hwn yn caniatáu i ni adeiladu ar CarmenAbroad.org a'i ehangu i greu swyddogaethau newydd fydd yn creu profiad modern a hylaw i'r cyhoedd, ysgolheigion a charedigion opera, ac mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer dealltwriaeth gerddoregol.

"Dros y blynyddoedd diweddar mae cerddoleg wedi troi at brosiectau mapio fel ffordd i ddefnyddio data ymchwil i 'adrodd straeon' ar gyfer dadansoddi, trefnu a chyflwyno ymchwil, er mwyn delweddu a dadansoddi tueddiadau cymhleth ar draws amser a lle."

Mae'r alwad am bapurau ar gyfer y gynhadledd ar agor tan 30 Ebrill 2019. Ymholiadau i Dr Clair Rowden.

Bydd Cwmni Operatig Prifysgol Caerdydd yn perfformio Carmen rhwng 5 a 7 Ebrill yn Theatr YMCA, The Walk, Caerdydd gyda threfniant sgôr Stephen McNeff, a gyhoeddir gan Edition Peters.

Tocynnau £5-£12

Cefnogir y cynhyrchiad gan Dr Clair Rowden, yr Ysgol Cerddoriaeth, Tŷ Cerdd, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.