Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd Creadigol yn ennill Gwobr Ddinesig

28 Mawrth 2019

Justin Lewis, Kayleigh Mcleod, Sara Pepper
O’r chwith i’r dde: Yr Athro Justin Lewis, Sylfaenydd Caerdydd Creadigol; Kayleigh Mcleod, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, a Sara Pepper, Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol.

Prosiect Prifysgol Caerdydd i ymgysylltu â chymuned greadigol Caerdydd wedi ennill Gwobr Ddinesig agoriadol yn Seremoni Wobrwyo Bywyd Caerdydd 2019.

Mae Caerdydd Creadigol yn rhwydwaith dinas gyfan sy'n cysylltu pobl sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol, er mwyn gwneud Caerdydd y lle mwyaf creadigol y mae’n gallu bod.

Meddai Sylfaenydd Caerdydd Creadigol, yr Athro Justin Lewis: “Rwy’n hynod falch o’r tîm, Sara, Kayleigh a Beca, sy’n haeddu cael eu cydnabod am eu hangerdd a’u hymrwymiad dros gefnogi cymuned greadigol Caerdydd.

“Pan ddechreuodd yr Athro Ian Hargreaves a finnau’r gwaith hwn yn 2014, roeddem ni’n gobeithio y byddai’r lefel hon o dwf, ymgysylltu ac effaith i’w gweld yn y ddinas.”

Dywedodd Sara Pepper, Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol: “Rydym wastad wedi bod yn ddifrifol iawn yn ein huchelgeisiau i gydnabod Caerdydd fel prifddinas creadigrwydd. Mae’r wobr hon am gyfranogiad Dinesig Caerdydd Creadigol yn hwb sylweddol i’n gwaith gyda’r gymuned greadigol, ac ar ei chyfer.”

Cychwynnodd y rhwydwaith yn 2015, a bellach mae ganddo 2,450 o aelodau yn rhanbarth Dinas Caerdydd ac mae’n gyfrifol am fentrau sy’n cynnwys Coworking Collective, Ymlaen!, Virtual Reality South Wales, yn ogystal ag ymchwil a fapiodd economi creadigol Caerdydd am y tro cyntaf.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.