Ewch i’r prif gynnwys

Adeiladu lle ar gyfer cymunedau creadigol Caerdydd

20 Mehefin 2016

Cardiff pop-up hub

Bydd cymuned greadigol Caerdydd yn dod ynghyd i gynnig gweithle agored ac arloesol a gynlluniwyd i hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio.

Cynhelir Canolfan undydd Caerdydd Creadigol rhwng 20-24 Mehefin, a’i nod fydd creu man lle gall ymarferwyr a gweledyddion creadigol o bob sector o'r economi greadigol weithio gyda'i gilydd fel cymuned i greu syniadau newydd a ffyrdd newydd o ryngweithio.

Mae'n un o sawl prosiect sy'n cael ei oruchwylio gan dîm Economi Creadigol Prifysgol Caerdydd sy'n hyrwyddo economi greadigol y ddinas ac sy'n annog pobl yn y sector creadigol i weithio ar y cyd i godi dyheadau’r ddinas.

Mae'r ganolfan undydd - sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru - wedi denu cyfranogwyr o bob cwr o’r ddinas. Byddant yn treulio'r rhan fwyaf o'r amser yn gweithio ar eu prosiectau eu hunain, ond bydd cyfle i glywed sgyrsiau byr, dyddiol gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol a gweithgareddau grŵp.

Dywedodd Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Drwy'r ganolfan undydd, rydym am annog amgylchedd lle mae pobl yn rhannu, siarad a helpu ei gilydd.

"Cynlluniwyd y ganolfan ar gyfer gwaith unigol, ond rydym yn gobeithio y bydd cyfranogwyr yn rhannu eu syniadau, eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hamser gydag eraill yn y ganolfan er mwyn i bawb elwa o'r profiad gan ffurfio cymuned gefnogol a chysylltiedig. Drwy gydol yr wythnos, byddwn yn cynnal ymchwil i weld a oes angen canolfan fwy parhaol ar bobl, a gobeithiwn y bydd cyfranogwyr yn gallu cyfrannu at yr ymchwil".

Mae'r ganolfan undydd wedi'i datblygu gan Gaerdydd Creadigol mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a Watershed, ac fe'i cefnogir gan brosiect Cyfnewid Dinas Rhanbarth Prifysgol Caerdydd.

Caiff y ganolfan ei chynnal rhwng 20-24 Mehefin yn Ystafelloedd y Preseli, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd. Bydd ar agor o 8.30am tan 5.30/6.00pm bob dydd (3.30 pm ar ddydd Gwener 24 Mehefin).

Rhannu’r stori hon