Ewch i’r prif gynnwys

Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop

16 Ionawr 2019

The outside of a prison facility

Mae gan Gymru’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop, yn ôl ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Heddiw, fe gyhoeddwyd ‘Sentencing and Immediate Custody in Wales: A Factfile’ (dydd Mercher 16 Ionawr), sy’n amlinellu cymhariaeth ystadegol fanwl o ffigyrau ynghylch dedfrydu a charcharu yng Nghymru a Lloegr.

Derbynnir yn gyffredinol mai Cymru a Lloegr ar y cyd sydd â’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Ond dyma’r tro cyntaf i’r ffigyrau ar gyfer y ddwy wlad gael eu dadansoddi ar wahân.

Drwy ddefnyddio cyfeiriadau cartref y troseddwyr er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy wlad, cafnu’r ymchwil fod gan Gymru ganran uwch o’i phoblogaeth gyffredinol yn y carchar na Lloegr bob blwyddyn ers 2013, pan ddaeth y data ar gael.

Yn 2017, roedd 154 o garcharorion Cymreig am bob 100,000 o boblogaeth Cymru. Mae hyn o’i gymharu â chyfradd o 141 o garcharorion Seisnig am bob 100,000 o boblogaeth Lloegr.

Hefyd, mae’r adroddiad yn dangos er bod cyfanswm nifer y dedfrydau gan lysoedd Lloegr wedi gostwng 16% rhwng 2010 a 2017, aeth y nifer i fyny ychydig (0.3%) yn llysoedd Cymru yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod nifer y troseddau a recordiwyd gan yr heddlu yn is yng Nghymru nag yn Lloegr bob blwyddyn rhwng 2013 a 2017.

Dywedodd Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: “Derbynnir yn gyffredinol mai Cymru a Lloegr sydd â’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Ond am y tro cyntaf, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar Gymru ar wahân yn y categori hwnnw. Mae’n dangos bod gan Gymru gyfradd uwch o garcharu na Lloegr mewn gwirionedd.

“Mae’r ffigurau hyn yn galluogi’r awdurdodau ac aelodau etholedig i ddadansoddi Cymru a chraffu arni fel uned o fewn y system cyfiawnder troseddol o ran cyfraddau o ddedfrydu a charcharu.”

Mae’r adroddiad yn datgelu nifer o anghyfartaleddau sylweddol eraill rhwng Cymru a Lloegr, gan gynnwys:

  • Yn 2017, 17.2 mis oedd hyd y ddedfryd o garcharu ar gyfartaledd am yr holl droseddau yn Lloegr. Roedd hyn o’i gymharu â 13.4 mis ar gyfartaledd am hyd y ddedfryd o garcharu yng Nghymru.
  • Cafwyd canran uwch o ddedfrydau pedair blynedd neu fwy yn Lloegr (8.9%) nag yng Nghymru (6.2%) rhwng 2010 a 2017.
  • Cafwyd cyfran uwch o ddedfrydau carchar byrdymor yng Nghymru nag yn Lloegr rhwng 2010 a 2017. Roedd 68.1% o’r holl ddedfrydau o garchar yng Nghymru yn llai na 12 mis o gymharu â 63.9% yn Lloegr.
  • Roedd menywod yng Nghymru yn fwy tebygol na dynion o gael dedfryd o garchar byrdymor. Rhoddwyd dedfrydau o lai na 12 mis i fwy na thri chwarter (78.6%) o’r holl fenywod a gafodd ddedfryd o garchar yn syth yng Nghymru rhwng 2010 a 2017. Mae hyn o’i gymharu â 67% o droseddwyr gwryw a gafodd ddedfryd yng Nghymru. Cafodd un o bob pedair menyw (24.8%) a gafodd ddedfryd o garchar yn syth yng Nghymru ei dedfrydu i fis neu lai yn y carchar rhwng 2010 a 2017.
  • Tangynrychiolwyd carcharorion Cymreig a Seisnig o’r grŵp ethnig Gwyn yn y carchar yn 2017. Roedd lefel yr anghydraddoldeb hiliol yn uwch ym mhoblogaethau carchardai Cymru nag yn Lloegr.
  • Ar gyfartaledd, troseddwyr Gwyn a gafodd ddedfryd o garchar yn syth yng Nghymru a gafodd y dedfrydau byrraf o garchar yn 2017 (13.2 mis). Fe recordiwyd mai yng Nghymru, troseddwyr Duon a gafodd y dedfrydau hiraf o garchar ar gyfartaledd (21.5 mis), gyda throseddwyr Asiaidd (19 mis) a Hil Gymysg (17.7 mis) yn eu dilyn.

Cafwyd data am boblogaethau carchardai yng Nghymru’n unig ac yn Lloegr yn unig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ychwanegodd Dr Jones: “Yn raddol, mae darlun manwl yn dod i’r amlwg o’r system gyfiawnder yng Nghymru, a sut mae’n eitha gwahanol i un Lloegr.

“Mae angen trafodaeth drylwyr am pam mae’r patrymau hyn o ddedfrydu a charcharu i’w gweld yng Nghymru ac ai’r canlyniadau hyn y mae Llywodraethau’r DU a Chymru am eu gweld yn y system cyfiawnder troseddol.”

Rhannu’r stori hon