Ewch i’r prif gynnwys

Data newydd yn dangos hyd a lled y cyffuriau a’r alcohol a ganfyddir yng ngharchardai Cymru

10 Medi 2018

The outside of a prison facility

Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cyflwyno tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyflwyno cyfres newydd o ganfyddiadau ar gyffuriau, alcohol a digartrefedd gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin.

Fe gynhaliodd y Pwyllgor sesiwn rhoi tystiolaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd, fel rhan o’i ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai yng Nghymru. Cafodd Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ei gwestiynu gan Aelodau Seneddol am y data newydd, ac am ei ffeil ffeithiau flaenorol ar Garcharu yng Nghymru.

Mae’r dystiolaeth newydd, y gellir ei darllen yn llawn yma, yn datgelu’r heriau parhaol yn y system garchardai o ran dod o hyd i gyffuriau ac alcohol, yn ogystal â’r cysylltiad cyson rhwng digartrefedd a charcharu.

Roedd y canlynol ymhlith y canfyddiadau allweddol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor:

  • Canfuwyd 227 o eitemau alcohol yng ngharchardai Cymru yn 2017.
  • Roedd y nifer uchaf o ganfyddiadau alcohol yng Nghymru yn 2017 yn CEM y Parc.
  • Canfuwyd mwy o eitemau o alcohol yn CEM y Parc yn 2017 (191) nac yn holl garchardai eraill G4S yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd (CEM Altcourse, CEM Birmingham, CEM Oakwood, CEM Rye Hill).
  • Bu cynnydd o 475% yn nifer y cyffuriau a ganfuwyd yng ngharchardai Cymru rhwng 2013 a 2018. Mae hyn o’i gymharu â chynnydd o 200% yn ngharchardai Lloegr.
  • Yn CEM Abertawe y daethpwyd o hyd i’r nifer uchaf gyffuriau yng Nghymru fesul 100 o garcharorion yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018.
  • Roedd chwarter yr holl garcharorion Cymru yn ddigartref wrth fynd i’r carchar yn 2017.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru’n parhau i ymgymryd â’i brosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth, gan ymchwilio i bob agwedd ar y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Meddai Dr Robert Jones: “Mae’r dystiolaeth newydd hon yn adeiladu ar yr ymchwil blaenorol a gynhaliwyd gennym yn y ffeil ffeithiau Carcharu yng Nghymru.

“Bu canfyddiadau cyffuriau ac alcohol yn y system garchardai’n fater o ddiddordeb i’r cyhoedd a’r cyfryngau dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r data diweddaraf ar gyfer Cymru’n awgrymu bod cyfres o amgylchiadau heriol, sy’n peri pryder, wedi dod i’r amlwg o fewn y system garchardai.

“Bydd asiantaethau a sefydliadau o fewn y system cyfiawnder troseddol nawr yn ystyried sut i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Yn ôl pob tebyg, o ystyried ei hymrwymiad i ostwng digartrefedd a mynd i’r afael â cham-drin sylweddau, bydd gan Lywodraeth Cymru diddordeb mawr yn y data hwn a’r system garchardai yng Nghymru, sydd ymhlith cyfrifoldebau Llywodraeth y DU.”

Rhannu’r stori hon