Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ethnograffegau Coll

20 Chwefror 2019

Stack of books

Cyhoeddodd Emerald The Lost Ethnographies y mis hwn. Dyma gasgliad o brosiectau na chafodd eu cwblhau na’u cyhoeddi erioed am ryw reswm neu ei gilydd.

Nod y casgliad, a olygwyd gan Dr Robin Smith a Dr Sara Delamont, yw rhoi cipolygon methodolegol ar ymchwil a ‘fethodd’ o safbwynt arwynebol.

Mae ymchwilwyr profiadol yn ysgrifennu prosiectau a gynllunion nhw, neu brosiectau yr oeddynt yn gyffrous amdanynt. Fodd bynnag, weithiau roedd yn rhaid iddynt roi’r gorau i rai prosiectau neu newid cyfeiriad y prosiect i’r graddau ei fod yn ddarn o waith cwbl wahanol bellach. Y rheswm syml pam nad ydym wedi clywed am rai ohonynt yw am na chawsant eu hysgrifennu ar y pryd.

Drwy ddadlennu’r prosiectau coll hyn - sy’n amrywio o astudiaeth am sut gellir defnyddio opera i bortreadu dinasoedd Ewrop yn gyrchfannau diwylliannol arbennig i arferion ‘pobl y Bwgan Blewog (Bigfoot)’, nod y llyfr hwn yw cynnig gobaith, anogaeth a rhyw fath o arweiniad i’r rheini sydd ar goll yn eu prosiectau ar hyn o bryd, neu a allai eu colli.

Trafodir The Lost Ethnographies gan y cyfranwyr Dr Robin Smith, Dr Dawn Mannay, Dr Jamie Lewis a’r Athro Paul Atkinson yn un o sesiynau seminar yr Ysgol ddydd Iau 21 Chwefror.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.