Ewch i’r prif gynnwys

Twf folcanig yn greiddiol i ffurfiant Panama

07 Chwefror 2019

Panama 1

Dyma lain denau o dir y sbardunodd ei chreadigaeth un o ddigwyddiadau daearegol pwysicaf y 60 miliwn o flynyddoedd diwethaf.

Ond ymysg gwyddonwyr, mae cryn ddadlau o hyd ynglŷn â’r broses a roddodd fod i Guldir Panama.

Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Scientific Reports, mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cynnig damcaniaeth nad proses dectonig yn unig a greodd y culdir. Gallai twf llosgfynyddoedd fod wedi cyfrannu at y broses.

Mae Culdir Panama yn llain gul o dir sy’n rhychwantu rhwng Gogledd a De America, rhwng Môr y Caribî a’r Cefnfor Tawel. Credir i’r culdir gael ei ffurfio’n llawn tua 2.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, mae gwyddonwyr yn ansicr o hyd am y prosesau a’r amserlenni a arweiniodd at hyn.

Hyd yn hyn, mae ymchwilwyr wedi ffafrio’r ddamcaniaeth y cafodd Culdir Panama ei greu wrth i ddau o blatiau tectonig y Ddaear, sef Plât De America a Phlât y Caribî, wrthdaro. Yn sgîl hyn, gwthiwyd llosgfynyddoedd danddwr i fyny o wely’r môr. Yn y pen draw, gwthiwyd rhai mannau i frigo uwchlaw lefel y môr. Gydag amser, llenwodd maint mawr o waddod y bylchau rhwng y llosgfynyddoedd tan ffurfiwyd un darn o dir.

Fodd bynnag, mae data geocemegol a geocronolegol a gymerwyd o Gamlas Panama ac ymchwiliad maes i hen losgfynyddoedd yn yr ardal hon, wedi datguddio tystiolaeth y bu gweithgarwch folcanig sylweddol yn ystod cyfnod critigol o ymddangosiad Culfor Panama o’r môr tua 25 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Credir y bu twf y llosgfynyddoedd yn rhanbarth Camlas Panama yn arbennig o bwysig ar gyfer ffurfiant y Culdir. Ffurfiwyd y Gamlas mewn ardal fas ym Mhanama y mae gwyddonwyr yn credu ei bod dan ddŵr am fwyafrif hanes daearegol y rhanbarth.

Mae hyn yn awgrymu y gallai ffurfiant y llosgfynyddoedd ar hyd y Gamlas fod wedi chwarae rôl bwysig o ran codi’r Culdir uwchlaw lefel y môr.

Mae gwyddonwyr yn awyddus i ddarganfod sut ffurfiwyd Culdir Panama yn union, gan fod y Culdir wedi effeithio’n sylweddol ar batrymau tywydd a bioamrywiaeth ar draws y byd.

Cyn i dir fodoli rhwng gogledd a de America, roedd dŵr wedi symud yn rhydd rhwng yr Iwerydd a’r Cefnfor Tawel. Newidiodd hyn pan ffurfiwyd Panama. Gorfododd y Culfor ddyfroedd twym y Caribî tua’r gogledd i greu’r hyn yr ydym bellach yn ei alw Llif y Gwlff. Arweiniodd hyn at hinsawdd dwymach yn ngogledd-orllewin Ewrop.

Hefyd, chwaraeodd ffurfiant Culfor Panama rôl bwysig o ran bioamrywiaeth y Ddaear. Hwylusodd y Culdir fudo rhwng y cyfandiroedd i anifeiliaid a phlanhigion. Yn Ngogledd America, gall yr oposwm, yr armadilo a’r ballasg (porciwpein) hel eu hachau i hynafiaid ddaeth ar draws y bont dir o Dde America. Yn yr un modd, croesodd hynafiaid eirth, cathod, cŵn, ceffylau, lamaod a racwniaid ar draws Culdir Panama i’r de.

Yn ôl Dr David Buchs, prif awdur yr astudiaeth o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd: “Heb os, ffurfiant Culdir Panama fu un o’r digwyddiadau daearegol pwysicaf sydd wedi digwydd ar y Ddaear. Yn arbennig, oherwydd ei effaith ar batrymau’r tywydd ar raddfa fawr, arweiniodd ffurfiant y Culdir at greu cap iâ’r Arctig a hybu bioamrywiaeth ar draws cyfandiroedd.

“Rydym wedi amlinellu tystiolaeth i ddangos y bu gweithgarwch folcanig yn greiddiol i ffurfiant Culdir Panama. Bu hefyd yn gyfrifol am lawer o’r nodweddion daearegol yr ydym yn eu gweld o gwmpas y rhanbarth heddiw.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.