Ewch i’r prif gynnwys

Angen am ofal lliniarol y tu allan i oriau gwaith

30 Ionawr 2019

Man in hospital bed having hand held

Mae dirfawr angen gwella ein dealltwriaeth o’r risgiau a’r ffactorau am niwed ar gyfer gofal lliniarol y tu allan i oriau gwaith er mwyn gwarchod diogelwch cleifion, yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ariennir yr astudiaeth gan yr elusen dros afiechyd terfynol, Marie Curie, a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Adolygodd yr astudiaeth 1,072 o achosion o ofal lliniarol, a chanfod pedwar prif faes y mae angen eu gwella: camgymeriadau wrth ddyrannu meddyginiaethau; trefnu gofal amserol; trosglwyddo gwybodaeth rhwng timau gofal iechyd yn aneffeithlon; a phroblemau gofal cathetrau.

Yn yr astudiaeth, disgrifiodd tua dau draean (64.8%) o achosion diogelwch cleifion ‘niwed go iawn’ i gleifion. Roedd adroddiadau’n cyfeirio at ofid emosiynol a seicolegol i gleifion, teuluoedd a gofalwyr. Mae’r disgrifiadau hyn o ‘niwed’ yn cynnwys camgymeriadau o ran rhagnodi, dyrannu neu roi meddyginiaethau, neu oedi wrth o ran cael gofal neu gyngor amserol.

Cafodd achosion o niwed difrifol (canolig neu waeth) eu hamlygu yn 129 (12%) o’r achosion a astudiwyd, megis gorfod mynd i’r ysbyty a marw'n rhy gynnar. Roedd mwyafrif yr achosion yn ymwneud â meddyginiaeth.

Gall gofal lliniarol leddfu dioddefaint diangen pobl yn eu cartrefi ac osgoi anfon pobl i’r ysbyty neu adrannau argyfwng yn ddiangen. Mae hyn yn ei hun yn gallu peri gofid i’r claf a’i deulu. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o adnoddau yn mynd i’r gwasanaethau o fewn yr oriau gwaith, ac mae llai o staff, gwasanaethau a chyllid wedi’i neilltuo ar gyfer gofal y tu allan i oriau gwaith.

Mae Dr Williams, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus o Grŵp Diogelwch Cleifion (PISA) yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn teimlo bod angen ystyried diogelwch y grŵp hwn o gleifion yn llawer mwy cyson.

“Dim ond un cyfle sydd gennych i ofalu am bobl yn eu diwrnodau olaf. Dyma gyfle i wneud y profiad hwnnw cystal â phosibl,” meddai.

“Mae modd gwneud hyn drwy gynllunio yn ystod yr oriau gwaith er mwyn gwneud meddyginiaethau’n fwy hygyrch pan fydd eu hangen - gan gofio, wrth gwrs, bod angen rhoi gweithdrefnau ar waith ar gyfer cyffuriau a reolir.

Dylai mynediad diogel at feddyginiaethau a thriniaethau, gofal diwedd oes mwy amserol, ac arferion trosglwyddo gwybodaeth ar draws ffiniau gofal fod y canolbwynt ar ymdrechion i wella yn y dyfodol.

Dr Huw WIlliams

Meddai Simon Jones, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus yn Marie Curie, fod mwy i hyn nag a welir, ac ychwanegodd: “Rydym yn gwybod bod diffyg gofal a chefnogaeth y tu allan i oriau gwaith yn broblem enfawr ledled y DU.  Dyma ran o’r gwasanaeth iechyd sy’n cael ei diystyru’n aml ac nid yw wedi’i gysylltu’n ddigon da â’r gwasanaethau argyfwng, sy’n gweithio 24/7.

“Y realiti yw bod angen gofal ar bobl ar ôl 6.30pm – ni allant roi eu problemau i’r neilltu gan ddibynnu ar yr amser y mae eu meddyg teulu, eu fferyllydd neu eu nyrs ardal ar gael. Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar ba ofal a chefnogaeth sydd ar gael y tu allan i oriau gwaith, fel bod pobl yn gallu cael y gofal priodol sydd ei angen gartref er mwyn osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty’n ddiangen. Bydd hyn yn lleihau’r baich ar wasanaeth argyfwng sydd eisoes ar ben ei dennyn.”

Croesawodd Andrew Wilson-Mouasher, rheolwr cyffredinol rhanbarthol Marie Curie yng Nghymru, y canfyddiadau ac ychwanegodd: “Mae ymchwil fel hon yn ein galluogi i gychwyn trafodaethau â darparwyr gofal iechyd eraill yn ogystal â chleifion a theuluoedd eu hunain. Bydd hyn yn hwyluso cynllunio ar gyfer gofal diwedd oes.”

Cyhoeddir yr ymchwil yn y cyfnodolyn Palliative Medicine.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.