Ewch i’r prif gynnwys

Y Sefydliad Ymchwil Dŵr yn lansio'i MOOC cyntaf

24 Ionawr 2019

Riverbed

Ddydd Llun 4 Chwefror, bydd y Sefydliad Ymchwil Dŵr yn lansio ei Gwrs Ar-lein Agored Enfawr (CAEA) cyntaf – 'Her Diogelwch Dŵr Byd-eang'

Mae'r cwrs rhad ac am ddim yn agored i unrhyw un fyddai'n hoffi dysgu mwy am yr heriau digynsail sy'n gosod hyd yn oed mwy o bwysau ar adnoddau dŵr y byd.

Fe'i ddyluniwyd gan dîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr cyswllt o'r Sefydliad Ymchwil Dŵr, a bydd yn cael ei gynnal drwy FutureLearn – y darparwr cyntaf o gyrsiau ar-lein agored enfawr sydd wedi'i arwain o'r DU.

Mae'r Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, yn esbonio sut bydd y cwrs yn rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o'r her sy'n gysylltiedig â diogelwch dŵr ledled y byd: "Mae dŵr yn adnodd allweddol ar gyfer ecosystemau a lles dynol, ffyniant a diogelwch.

"Yn y 30 mlynedd nesaf, mae UNESCO yn amcangyfrif na fydd gan rhwng tair a phedair biliwn o bobl ledled y byd ddigon o ddŵr i gynhyrchu bwyd. Bydd un biliwn o bobl yn byw mewn dinasoedd lle mae dŵr wastad yn brin, a bydd 80% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd â bygythiadau mawr i ddiogelwch dŵr.

"Sicrhau dŵr ledled y byd at anghenion dynol, wrth gynnal cyfalaf naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yw un o heriau mwyaf brys y ganrif hon."

Drwy amrywiaeth o fideos byr ac astudiaethau achos, bydd y cwrs yn archwilio sut mae newid mewn demograffeg, trefoli a newid yn yr hinsawdd yn creu ansicrwydd go iawn ynghylch yr adnoddau dŵr sydd ar gael ledled y byd, ac yn cynnig trosolwg rhyngddisgyblaethol o'r problemau presennol, a rhai'r dyfodol o safbwynt gwyddonwyr economaidd-gymdeithasol, ecolegol a daearyddol.

Nod y cwrs pedair wythnos yw annog pobl i feddwl mewn modd beirniadol, ac i ysgogi rhyngweithio rhwng dysgwyr. Ym mhob pwynt, byddant yn gallu rhannu eu safbwyntiau ynghylch diogelwch dŵr o'r wlad y maent yn byw ynddi. Byddant yn rhydd i drafod eu profiadau eu hunain ac i fyfyrio ar faterion diogelwch dŵr a'r atebion a gyflwynir gan y cwrs.

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddiogelwch dŵr ledled y byd, cofrestrwch ar gyfer y cwrs ar FutureLearn.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.