Ewch i’r prif gynnwys

Cynnydd mewn ffynonellau newyddion amgen

25 Ionawr 2019

Man being interviewed

Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r cynnydd yn y cyfryngau gwleidyddol amgen ar-lein ac agweddau’r cyhoedd tuag at y cyfryngau prif ffrwd.

Bydd y prosiect tair blynedd, a arweinir gan Dr Stephen Cushion, Darllenydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, yn ymchwilio i gynhyrchiad, cynnwys a defnydd o’r cyfryngau gwleidyddol amgen asgell chwith a dde ar-lein.

Wrth wneud hynny, bydd hefyd yn edrych ar sut mae’r cyhoedd wedi ymddieithrio rhag y cyfryngau prif ffrwd, gan ymchwilio i’r rhesymau pam mae rhai pobl yn troi at ffynonellau newyddion amgen.

Dywedodd Dr Cushion: “Ysgogwyd yr astudiaeth er mwyn ymateb i’r llu o bleidleiswyr a aeth y tu hwnt i’r cyfryngau prif ffrwd yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol y DU yn 2017 a throi at gyfryngau gwleidyddol amgen ar-lein, megis The Canary, Evolve Politics, Skwawkbox, Westmonster a Breitbart UK.

“Roedd y gwefannau hyn yn rhan greiddiol o’r ymgyrch gan eu bod o fewn cyrraedd i’r pleidleiswyr ar draws y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan osgoi dibyniaeth ar fathau confensiynol o newyddion. Nod ein prosiect yw deall pam mae pobl yn troi at gyfryngau gwleidyddol amgen ac edrych yn feirniadol ar y math o wybodaeth a gynigir.”

Mae’r prosiect, ‘Y tu hwnt i gyfryngau prif ffrwd: Deall twf cyfryngau gwleidyddol amgen ar-lein’, yn cael ei gefnogi gan grant ymchwil o £517,731 a ddyfarnwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Drwy weithio gyda newyddiadurwyr, gwleidyddion a rheoleiddwyr cyfryngau, nod yr astudiaeth yw myfyrio ar oblygiadau ehangach y duedd.

Ychwanegodd Dr Cushion: “Rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol ac mae’n bwysicach nag erioed bod y cyhoedd yn gallu cael gafael ar newyddion a sylwebaeth gywir am ddigwyddiadau gwleidyddol sy’n mynd rhagddynt. Bydd yr ymchwil hon yn taflu goleuni ar ddull cynyddol boblogaidd o gael newyddion a’i oblygiadau ar gyfer dyfodol ein democratiaeth.”

Dr Richard Thomas, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, yw Cyd-ymchwilydd y prosiect. Caiff cynorthwy-ydd amser llawn ei gyflogi am dair blynedd hefyd. Mae’r rôl yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.