Ewch i’r prif gynnwys

Elfen hanfodol o ddemocratiaeth

24 Mai 2018

TV camera

Mae adroddiad gan academydd o Brifysgol Caerdydd yn dod i’r casgliad bod Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSM) yn rhan annatod o iechyd systemau democrataidd.

Cyfraniad PSM i ddemocratiaeth: Ysgrifennwyd PSM contribution to democracy: News, editorial standards and informed citizenship, gan Dr Stephen Cushion, o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.Gan ganolbwyntio'n bennaf ar y cyfryngau darlledu yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, dadansoddodd Dr Cushion amlder ac ansawdd darllediadau newyddion ar draws sianeli gwasanaeth cyhoeddus a sianeli masnachol.

Wrth edrych ar y sylw a roddwyd gan y prif ddarlledwyr yn ystod etholiadau 2015 a 2017 yn y Deyrnas Unedig, mae’n nodi: "Mae PSM yn canolbwyntio mwy ar faterion a goblygiadau polisi na'r cyfryngau sy'n dilyn y farchnad. Gallai hynny olygu, er enghraifft, craffu ar addewidion maniffesto pleidiau neu edrych ar eu hygrededd o safbwynt annibynnol.

"Roedd y cyfryngau masnachol, ar y llaw arall, yn tueddu i adrodd mwy o storïau yn null gêm neu strategaeth, gan ganolbwyntio ar bwy sydd ar y brig yn y polau, yn ogystal ag ymgyrchoedd a phersonoliaethau’r ornest etholiadol."

Er bod holl fwletinau newyddion teledu’r Deyrnas Unedig wedi rhoi sylw eang i ymgyrchoedd etholiadau cyffredinol 2015 a 2017, daw Dr Cushion i'r casgliad mai'r BBC oedd yn neilltuo amser yn gyson ar gyfer "ymgyrchoedd cywair-isel, fel etholiadau lleol neu Ewropeaidd, oedd yn aml yn cael eu hanwybyddu gan gyfryngau oedd yn dilyn y farchnad." Dengys ei ddadansoddiad fod ymgyrchoedd etholiadau lleol a’r UE yn 2009 a 2013 yn eu tro yn cyfrif am 6.2% a 4.7% o raglen News at Six y BBC.  Roedd hyn mewn cyferbyniad â bwletin 5pm Channel 5, lle roeddent yn cyfrif am 1.2% ac 1.0% yn unig o’r agenda newyddion gyfan.

Yn ei gasgliad, mae'r Dr Cushion yn ysgrifennu: "Ar adeg pan fo pryderon cynyddol ynghylch newyddion ffug a chamarweiniol, mae’n hanfodol sicrhau bod newyddion yn cael ei gyflwyno â safonau golygyddol uchel er mwyn cynnal democratiaeth sy'n gweithio'n dda.

"Wrth i fwy o bobl ddod i gysylltiad â gwybodaeth amheus neu wleidyddol ar safleoedd fel Twitter a Facebook, mae PSM yn cynnig newyddion dibynadwy a chredadwy sydd nid yn unig yn gwasanaethu anghenion unigolion, ond o fudd i systemau democrataidd cyfan, gan fod modd i bobl weithredu’n fwy rhesymegol fel dinasyddion o fedru cyrchu newyddion a gwybodaeth sy’n gywir.”

Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer Gwasanaeth Gwybodaeth am y Cyfryngau (MIS) Undeb Darlledu Ewrop.

Mae Dr Cushion wedi ysgrifennu'n helaeth am newyddion, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Enw ei lyfr diweddaraf, a ysgrifennwyd ar y cyd â Dr Richard Thomas o Brifysgol Abertawe, yw: Reporting Elections: Rethinking the Logic of Campaign Coverage.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.