CASCADE i weithio gydag awdurdodau lleol yn Lloegr i leihau’r angen i blant fynd i ofal
25 Ionawr 2019
Bydd academyddion o Brifysgol Caerdydd yn gweithio gyda chwe awdurdod lleol ar brosiectau sydd â'r nod o leihau’r angen i blant fynd i ofal.
Mae’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) yn rheoli’r cynllun ar gyfer y Ganolfan Beth sy’n Gweithio ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant, menter gan Lywodraeth y DU.
Gyda chyfanswm cyllideb o £2.4 miliwn, bydd yn canolbwyntio ar alluogi gweithwyr cymdeithasol i wneud penderfyniadau, cynnig cymorth cynharach i blant, a gwneud defnydd gwell o’r adnoddau sydd ar gael.
Bydd CASCADE yn gweithio gyda phob awdurdod lleol i sefydlu’r prosiectau, gyda’r gobaith y bydd y cynlluniau peilot yn arwain at werthusiadau ar raddfa fawr o 2020 ymlaen.
Bydd y cam cyntaf, a gyflawnir gan Gyngor Bwrdeistref Darlington, Cyngor Bwrdeistref Hillingdon a Chyngor Wigan, yn galluogi gweithwyr cymdeithasol i wneud penderfyniadau ar gyllidebau fel nad oes angen i blant fynd i ofal. Bydd Cyngor Bwrdeistref Lambeth, Cyngor Dinas Southampton a Chyngor Bwrdeistref Stockport yn cymryd rhan mewn prosiectau i leoli gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion i weithio gyda phlant a theuluoedd. Bydd y partneriaid a ddewiswyd yn dechrau gweithio gyda’r Ganolfan wedi iddynt lofnodi is-gontractau a gyflwynwyd i bob awdurdod lleol y mis hwn.
Dywedodd yr Athro Donald Forrester, Cyfarwyddwr CASCADE, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Roedd nifer ac ansawdd y ceisiadau a gafwyd lawer yn uwch na’r disgwyl – sy’n dystiolaeth o’r egni sy’n bodoli yn y sector i ymchwilio i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.
“Rydym wedi dewis prosiectau sy’n rhoi cyfle i ni gymharu gwahanol ffyrdd o roi grym i weithwyr cymdeithasol a theuluoedd ar draws y ddau faes. Caiff pob prosiect ei werthuso gan CASCADE ar gyfer y Ganolfan Beth sy’n Gweithio a byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau cychwynnol i’r sector yn 2020. Rydym yn gwybod ei bod hi’n gyfnod byr o amser a’r cynllun yw cyflwyno dulliau sy’n addawol a’u gwerthuso yn gadarn.”
Wrth sôn am y partneriaethau, dywedodd Michael Sanders, Cyfarwyddwr Gweithredol newydd Canolfan Beth sy’n Gweithio ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’n partneriaid newydd ac rwy’n gyffrous iawn am y prosiectau newid hyn. Maent yn cynrychioli cyfle enfawr i gael effaith go iawn ar weithiwyr cymdeithasol ac ar y plant a phobl ifanc y maent yn gweithio mor galed i’w helpu, yn ogystal â symud y sail dystiolaeth yn ei blaen.
“Bydd y gwerthusiadau peilot, a arweinir gan CASCADE, yn ein galluogi ni i ddarganfod y ffordd orau o ddylunio rhaglenni fel hyn i gynyddu pa mor debygol ydyw o lwyddo i wella canlyniadau i bobl ifanc a’u teuluoedd, yn ogystal â deall eu dichonoldeb er mwyn eu cynnig ar raddfa fwy yn y dyfodol.”