Ewch i’r prif gynnwys

Am gael noson dda o gwsg, blant?

15 Medi 2015

Twitter screen

Heddiw, tanlinellir effaith y cyfryngau cymdeithasol ar fywydau pobl ifanc, wrth i astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), yn y Brifysgol, adrodd bod mwy nag un o bob pump yn eu harddegau yn dweud eu bod "bron bob amser" yn deffro yn ystod y nos i edrych ar negeseuon neu bostio negeseuon.

Mewn papur a gaiff ei gyflwyno gerbron Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) gan ymchwilwyr yn WISERD, mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod mwy na thraean o bobl ifanc rhwng 12 a 15 mlwydd oed yn dweud eu bod yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos.

Nid yw'n syndod y canfuwyd bod hyn yn cael sgîl-effeithiau ar flinder y bobl ifanc yn yr ysgol: ymhlith rhai plant, mae'n bosibl ei fod hyd yn oed yn gwneud iddynt deimlo'n fwy blinedig na phe baent yn mynd i'r gwely'n hwyr.

Mae'n ymddangos bod y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y nos, sy'n tarfu ar gwsg, yn effeithio ar hapusrwydd cyffredinol disgyblion hefyd. Mae'r rheini sy'n deffro i ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn nodi lefelau is o les.

Yn y cyfamser, mae gan yr astudiaeth oblygiadau ar gyfer y drafodaeth a ddylid caniatáu i bobl ifanc yn eu harddegau ddechrau yn yr ysgol yn hwyrach, i roi mwy o amser iddynt gysgu yn y bore.  Dywed y tîm ymchwil bod eu data'n awgrymu y gallai newid o'r fath wneud mwy o niwed nag o les.

Daw canfyddiadau'r tîm ar batrymau cwsg pobl ifanc yn eu harddegau o ddadansoddiad ystadegol o arolwg o 412 o ddisgyblion ym mlwyddyn wyth (12 ac 13 oed) a 436 o ddisgyblion ym mlwyddyn 10 (14 a 15 oed), a gaiff eu haddysgu mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Gofynnwyd i'r bobl ifanc pa mor aml maent yn deffro yn y nos i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. I oddeutu 22 y cant o ddisgyblion blwyddyn wyth, a 23 y cant o'r rheini ym mlwyddyn 10, "bron bob amser" oedd yr ateb.

Dywedodd 14 y cant ymhellach o'r grŵp iau, a 15 y cant o'r grŵp hŷn, eu bod yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos.

Gofynnwyd hefyd i'r rheini yn yr arolwg pa mor aml roeddent yn teimlo'n flinedig yn yr ysgol. Dywedodd dros hanner y rheini a ddywedodd eu bod "bron bob amser" yn deffro i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol eu bod hefyd "bron bob amser" yn mynd i'r ysgol yn teimlo'n flinedig.

Roedd hyn yn llawer uwch na'r ganran gyffredinol o ymatebwyr a ddywedodd eu bod "bron bob amser" yn teimlo'n flinedig yn yr ysgol, sef 32 y cant o'r disgyblion blwyddyn 8 a 39 y cant o'r disgyblion blwyddyn 10.

Yn ôl yr astudiaeth, roedd cyfran sylweddol o ddisgyblion yn dweud eu bod yn mynd i'r gwely'n hwyr iawn: dywedodd 17 y cant o ddisgyblion blwyddyn wyth a 28 y cant o ddisgyblion blwyddyn 10 eu bod yn mynd i gysgu am hanner nos neu'n hwyrach ar noson ysgol. Ymhlith y rhain, roedd chwech y cant o'r grŵp iau ac 8 y cant o'r grŵp hŷn yn honni eu bod yn mynd i'r gwely ar ôl 1am.

Fodd bynnag, yn achos y grŵp iau, canfu'r astudiaeth bod yr amser a dreulir yn y gwely'n cael llai o effaith ar flinder y plentyn yn yr ysgol na deffro yn ystod y nos i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

Nid dyma'r achos ymhlith y grŵp hŷn. Fodd bynnag, hyd yn oed ymhlith y grŵp hwn, roedd y rheini a oedd yn dweud eu bod yn deffro i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob nos yn dal ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi blino'n gyson na'r rheini a oedd byth yn gwneud hynny.

Yn ogystal, canfu'r ymchwilwyr gysylltiad cryf rhwng deffro ar amser rheolaidd yn y bore a pheidio â theimlo'n flinedig.

Dywedodd ymchwilydd WISERD, Dr Kimberly Horton, fydd yn cyflwyno'r gwaith ymchwil ddydd Mercher: "Yn ôl pob golwg, mae cael amser deffro rheolaidd a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y nos yn bwysicach wrth bennu a yw person ifanc bob amser wedi blino yn ystod y dydd na'r amser y mae'n mynd i'r gwely, faint o amser mae'n ei dreulio yn y gwely ac amser gwely rheolaidd.

"Mae'n ymddangos ei bod yn bwysig [iawn] annog pobl ifanc i beidio â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y nos.  Mae'n debyg nad oes unrhyw faint o ymdrech i ddatblygu amser gwely rheolaidd nac ymestyn yr amser maent yn ei dreulio yn y gwely yn gallu gwneud yn iawn am yr aflonyddwch y gall hyn ei achosi."

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Paul Kelley, cyn-bennaeth ysgol sydd bellach yn gweithio yn Sefydliad Niwrowyddoniaeth Beunyddiol a Chwsg Prifysgol Rhydychen, wrth Ŵyl Wyddoniaeth Prydain, y dylai ysgolion ddechrau'n hwyrach er mwyn mynd i'r afael â diffyg cwsg ymysg disgyblion.

Ond dadleua papur WISERD yn erbyn amser dechrau hwyrach mewn ysgolion. Dywed y byddai disgyblion yn llai tebygol o gael amser deffro rheolaidd o ganlyniad, gan ategu'r ffaith bod data'r arolwg yn awgrymu bod amser deffro rheolaidd yn bwysig iawn, er mwyn i blentyn fod yn llai tebygol o deimlo'n flinedig.

Dywed y papur: "Gallai sefydlu trefn reolaidd yn y bore fod yn bwysig iawn wrth helpu pobl ifanc yn eu harddegau i ganolbwyntio a mwynhau eu dysgu, rhywbeth a allai gael ei danseilio gan newidiadau yn y diwrnod ysgol."

Ymddengys bod patrymau cwsg hefyd yn cael effaith glir ar lefelau lles cyffredinol y disgyblion. Gofynnwyd i'r disgyblion pa mor hapus oeddent, ar raddfa o un i saith. Ymhlith y disgyblion iau, roedd y rhai a ddywedodd eu bod bron bob amser wedi blino bron i bwynt yn llai hapus ar gyfartaledd, ac ymysg y grŵp hŷn, roedd y rhai a ddywedodd eu bod bron bob amser wedi blino hanner pwynt yn llai hapus.

Mae "Routines and rest: the sleep behaviours of 12 to 15 year olds", papur gan Dr Kimberley Horton, yr Athro Chris Taylor a'r Athro Sally Power, o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn cael ei gyflwyno gerbron BERA ddydd Mercher, 16 Medi.