Ewch i’r prif gynnwys

Canfod y cyfuniad mwyaf erioed o dyllau duon

7 Rhagfyr 2018

gravitational waves black holes
Credit: LSC/Sonoma State University/Aurore Simonnet

Canfod tonnau disgyrchiant ar ôl arsylwi ar y gwrthdrawiad mwyaf erioed o dyllau duon.

Digwyddodd y gwrthdrawiad oddeutu pum biliwn o flynyddoedd yn ôl, a chynhyrchu tonnau disgyrchiant a welwyd o'r Ddaear gan synwyryddion eithriadol o sensitif ar 29 Gorffennaf 2017.

Dangosodd y tonnau disgyrchiant – crychdonnau pitw mewn gofod-amser a gynhyrchir gan ddigwyddiadau cosmig – bod y tyllau duon yn pwyso dros 50 a 34 gwaith yn fwy na màs ein haul, a'u bod wedi gwrthdaro i gynhyrchu gwrthrych unigol dros 80 gwaith yn fwy na màs ein seren.

Mae'r canfyddiad nodedig hwn wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â thri chanfyddiad newydd o donnau disgyrchiant sy'n deillio o gyfuno tyllau duon.

Cafodd y canfyddiad ei wneud gan synwyryddion wedi'u llywio gan LIGO (Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser), a'r synhwyrydd tonnau disgyrchiant Ewropeaidd, VIRGO.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn aelod o LIGO ers ei sefydlu ac wedi gwneud cyfraniadau allweddol i bob canfyddiad o donnau disgyrchiant hyd yn hyn.

Mae cyhoeddi'r set newydd hon o ganfyddiadau, y manylir yn eu cylch mewn papur a lanlwythwyd i ystorfa ArXiv, yn golygu bod cyfanswm o 11 o ganfyddiadau tonnau disgyrchiant wedi'u gwneud, hyd yn hyn – 10 yn sgîl cyfuniadau o dyllau duon, ac un yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sêr niwtron.

Mae'r papur yn dogfennu canlyniadau dau ystod o gyfnodau arsylwi a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2015 a mis Awst 2017.

Dyma broses bontio gyffrous i arsylwi'n rheolaidd. Gyda dros 10 o arsylwadau, rydym bellach yn dechrau deall nodweddion tyllau duon ein bydysawd o ddifrif.

Yr Athro Mark Hannam

Dros y 30 blynedd diwethaf, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn datblygu meddalwedd ac algorithmau newydd sydd bellach wedi dod yn offer chwilio safonol er mwyn canfod y signalau tonnau disgyrchiant sy’n anodd dod o hyd iddynt. Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn sefydlu rhaglen o waith ymchwil arbrofol ym maes seryddiaeth tonnau disgyrchiant i ategu ei gwaith damcaniaethol.

Yn ôl yr Athro Hartmut Grote, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'n gyffrous gweld degawdau o waith caled ar yr offer wnaeth hwyluso'r holl ganfyddiadau yn dwyn ffrwyth.

"Mae'r offer hwn nawr yn cael eu gwella ymhellach er mwyn bod yn barod ar gyfer cyfnod newydd o gasglu data gyda sensitifrwydd digynsail, sy'n dechrau yng ngwanwyn 2019."

Yn ôl Dr Vivien Raymond o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Yn dilyn y cyflawniad gwych yn sgîl y canfyddiad cyntaf, mae maes newydd seryddiaeth disgyrchiant yn cadw at ei addewidion.

"Mae'r catalog cyntaf hwn yn cynrychioli'r wybodaeth sydd gennym am y bydysawd tonnau disgyrchiant, ac o hyn ymlaen bydd yn cynyddu'n aruthrol o ran ei faint a'i gymhlethdod."

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.