Ewch i’r prif gynnwys

Cymrawd ar Ddechrau Gyrfa Leverhulme yn ymuno â'r Ysgol Cerddoriaeth

3 Rhagfyr 2018

Loyalist mural in Belfast
Murlun teyrngarol yn Belfast

Mae Dr Stephen Millar wedi ymuno â'r Ysgol Cerddoriaeth ar ôl cael Cymrodoriaeth Dechrau Gyrfa Leverhulme.

Mae Dr Millar yn ymuno â ni o Brifysgol Glasgow Caledonian, a bydd yn gweithio ar brosiect sy'n archwilio hanes caneuon teyrngarwyr yng Ngogledd Iwerddon a'u rôl wrth fynegi diwylliant a hunaniaeth ddosbarth-gweithiol Brotestannaidd. Mae'r prosiect yn archwilio rôl caneuon teyrngarwyr yn ystod y Gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon (1968-1998) a pham mae cerddorion a chynulleidfaoedd yn parhau i gynhyrchu a gwneud defnydd o ddeunydd o fath.

Bydd y prosiect yn archwilio'r cysylltiad rhwng caneuon teyrngarwyr a datblygiadau diwylliannol a gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, a sut mae'r caneuon yn trafod y materion hyn. Mae caneuon y teyrngarwyr yn cynnig cyd-destun unigryw ar gyfer deall ynys ranedig a chyfandir mewn darnau yn dilyn Brexit.

Y prosiect 3 blynedd mewn hyd hwn yw'r cyntaf o'i fath, a bydd yn cynhyrchu'r archif ar-lein cyntaf o gerddoriaeth yng Ngogledd Iwerddon, o'r enw 'Caneuon y Gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon' ('Songs of the Northern Ireland Conflict' - SoNIC). Bydd archif SoNIC yn defnyddio dulliau arloesol i guradu caneuon gwleidyddol yn ystod ac ar ôl y trafferthion, a'u gosod mewn cyd-destun. Bydd hefyd yn dangos y modd y mae caneuon gwleidyddol yn parhau i lywio materion a hunaniaethau presennol.

Bydd Dr Millar yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro John Morgan O'Connell, sydd wedi cynnal gwaith helaeth ar gerddoriaeth a gwrthdaro, gyda llawer ohono'n canolbwyntio ar Iwerddon. Mae ei waith presennol ar greu cerddoriaeth yn Iwerddon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cysylltu â gwaddol hanesyddol parafilwyr teyrngar wnaeth ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac sy'n parhau i gael eu crybwyll yng nghaneuon teyrngarwyr.

Bydd Dr Millar yn addysgu mewn modiwlau amrywiol o fewn yr Ysgol, gan gynnwys Disgyblu Cerddoriaeth, Gwneud Ethnogerddoleg, a Materion mewn Cerddoriaeth Boblogaidd.

Rwyf wrth fy modd o fod wedi cael y Gymrodoriaeth ac yn teimlo'n llawn cyffro dros ddechrau gweithio ar fy mhrosiect newydd. Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da dros ben am Ethnogerddoleg ac Astudiaethau Cerddoriaeth Boblogaidd, ac mae'r naill bwnc a'r llall wrth wraidd fy niddordebau academaidd. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu i'r amgylchedd ymchwil o fewn yr Ysgol a gweithio ochr yn ochr â chyfadran nodedig Prifysgol Caerdydd."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.