Ewch i’r prif gynnwys

Mencap Cymru a myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn lansio pecyn cymorth

10 Medi 2015

Mentor Cymru

Bydd pecynnau cymorth yn helpu oedolion ag anableddau dysgu i gael gafael ar wasanaethau

Mae cyfres o ganllawiau newydd wedi'u lansio gan Mencap Cymru heddiw (8 Medi) ar y cyd ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd. Eu diben yw ceisio helpu oedolion ag anabledd dysgu a'u gofalwyr i gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gyda chymorth myfyrwyr y gyfraith, mae academyddion a Mencap Cymru wedi datblygu'r pecynnau cymorth i rymuso gofalwyr a theuluoedd oedolion ag anableddau dysgu a'u helpu i ddeall sut i gael gafael ar y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w derbyn.

Cafodd y pecynnau cymorth, a gaiff eu lansio heddiw yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, eu datblygu ar sail y gydnabyddiaeth fod gofalwyr yn aml yn cael eu llethu gan ba mor eang a chymhleth yw'r fframwaith ar gyfer cael gafael ar wasanaethau.

Bydd Swyddogion Rhanbarthol Mencap Cymru yn defnyddio'r canllawiau i gefnogi eu gwaith wrth gynorthwyo pobl ag anabledd dysgu a'u gofalwyr i gael gafael ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn gyfreithiol.

Bydd yn becyn cynhwysfawr sy'n cynnig gwybodaeth am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys dyletswydd a rhwymedigaethau awdurdodau lleol a byrddau iechyd, y fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu sut gellir herio penderfyniadau'r cyrff hyn, a'r newidiadau cyfreithiol sydd ar y gweill.

Gall gwasanaethau gynnwys asesiadau sydd ar gael ar gyfer oedolion ag anabledd, neu gefnogaeth ar gyfer gofal a help personol megis cynorthwyon ac addasiadau, neu gymorth ariannol.

Mae'r prosiect yn rhan o rwydwaith o gynlluniau ymgysylltu cymunedol a gynhelir gan Ysgol y Gyfraith i helpu'r gymuned o'i chwmpas. Ar yr un pryd, mae'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ennill profiad cyfreithiol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ar lawr gwlad (gweler: http://www.law.caerdydd.ac.uk/probono/).

Dywedodd Jason Tucker, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd: "Rhoddodd y prosiect gyfle gwych i'r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a dysgu am waith hanfodol sefydliadau'r trydydd sector.  Gyda lwc, gallwn ddatblygu'r prosiect dros dair blynedd arall gydag arian gan Lywodraeth Cymru."

Ychwanegodd Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru: Mae cefnogi pobl i gael rheolaeth dros y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen i fyw bywydau bodlon ac annibynnol yn ganolog i waith Mencap Cymru. Bydd y prosiect gydag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yn rhoi'r hyder a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl ag anabledd dysgu a'r rhai sy'n eu cefnogi i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chael gwasanaethau gwell. Pleser o'r mwyaf yw gweld sut mae'r myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n gwirfoddoli erbyn hyn yn fwy ymwybodol o anghenion penodol pobl ag anabledd dysgu a'u gofalwyr drwy gymryd rhan yn y pecynnau cymorth.

Rhannu’r stori hon