Ewch i’r prif gynnwys

Hologramau cerddoriaeth bop: dadleuol neu drawsnewidiol?

10 Medi 2015

MJ hologram/shadow

Arbenigwyr cerddoriaeth yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd ryngwladol am ddyfodol y diwydiant pop

Bydd goblygiadau moesegol 'atgyfodi' cerddorion marw ar ffurf hologramau ymhlith y pynciau trafod heddiw (10 Medi) yn ystod cynhadledd ryngwladol am ddyfodol cerddoriaeth bop gael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd cynhadledd Dyfodol Cerddoriaeth Boblogaidd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudio Cerddoriaeth Boblogaidd (IASPM) yn trin a thrafod materion gan gynnwys y defnydd cynyddol o hologramau mewn perfformiadau cerddoriaeth bop sy'n galluogi perfformwyr sydd wedi marw neu absennol i 'berfformio' ger bron cefnogwyr mewn sefyllfaoedd byw.

Mae hologramau wedi'u creu'n ddiweddar o sêr sydd ymhlith y rhai sydd wedi ennill mwyaf o arian ar ôl marw, gan gynnwys Elvis, Tupac a Michael Jackson. Fodd bynnag, bydd y gynhadledd yn ystyried y cyfyngderau a'r goblygiadau moesegol sy'n codi yn sgîl eu defnyddio.

Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol sy'n cynnal y gynhadledd ddeu-ddydd hon a bydd yn cynnwys dros dri deg o gyflwyniadau gan ymchwilwyr o brifysgolion mor bell i ffwrdd â Munich a Helsinki. Bydd 'Oedran ac Awtogywair', 'YouTube a Dyfodol y Diwydiant Recordiau' a 'Dyfodol Cyfansoddi Caneuon Pop' ymhlith y pynciau trafod.

Bydd cerddorion ymhlith y cyflwynwyr gan gynnwys Damon Minchella, cyn-gitarydd bas Ocean Colour Scene, a Chanan Hanspal, gitarydd sydd wedi perfformio gyda Kylie Minogue a Jamiroquai ymhlith eraill.

Bydd Samuel Murray, ymchwilydd ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd, yn cyflwyno sesiwn hefyd am lunio polisïau ym maes cerddoriaeth. Bydd cyflwyniad Samuel, o dan y teitl Bills, Bills, Bills, yn trafod y cyd-destun Americanaidd - gan gynnwys cynlluniau fel treth $35 Portland i ariannu rhaglenni celfyddydol mewn ysgolion - ac yn ystyried a allai polisïau tebyg weithio mewn fframwaith gan Lywodraeth y DU.

Cynhelir sesiwn drafod ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth boblogaidd hefyd. O dan gadeiryddiaeth Dr Joe O'Connell o Brifysgol Caerdydd, bydd yn dod â cherddorion o Gymru ynghyd yn ogystal â Dirprwy Arweinydd y Blaid Werdd, Amelia Womack ac Eluned Parrott AC.

Dywedodd Alicia Stark, ymchwilydd ôl-raddedig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd fydd yn cyflwyno ei phapur am hologramau mewn perfformiadau poblogaidd: "Bydd y digwyddiad hwn yn ystyried dyfodol cerddoriaeth boblogaidd mewn modd gwirioneddol gyfannol. Bydd yn edrych ar faterion fel ffenomen yr hologramau a sut maent wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn gyflym. Dim ond un pwnc yw hwn sy'n wynebu cerddoriaeth boblogaidd sy'n codi cwestiynau ynglŷn ag awdurdod, perchnogaeth ac awduraeth mewn perthynas â phersonâu, atgofion ac ystadau cerddorion blaenllaw a dylanwadol.

"Beth yw'r cyfyngderau a'r cyfrifoldebau moesegol sy'n gysylltiedig ag ail-greu delwedd a pherfformiadau enwogion sydd wedi marw, pwy ddylai wneud allu gwneud penderfyniadau o'r fath a phwy ddylai gael yr elw?"

Ychwanegodd Sam Murray, cynrychiolydd ôl-raddedig ar gyfer IASPM ac ymchwilydd yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol: "Ers dechrau'r ganrif hon, mae technoleg wedi bod yn datblygu'n gyflym dros ben. Mae cerddoriaeth nawr yn ddigidol, mae offerynnau a synnau newydd yn cael eu datblygu, ac mae cyngherddau nawr ymhell y tu hwnt i sioe arferol gyda bandiau llewys yn goleu ar yr un pryd a hologramau ymhlith yr hyn a gynigir.

"Mae IASPM wedi herio ei haelodau ôl-raddedig, sef dyfodol astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd fel disgyblaeth academaidd, i edrych i'r dyfodol a darogan beth fydd yn digwydd nesaf. Dyma un o'r cynadleddau cyntaf fydd yn proffwydo dyfodol cerddoriaeth boblogaidd. Gyda posibiliadau diddiwedd o ran technoleg a chreadigrwydd pobl, hwyrach y cawn hyd i syniadau'r dyfodol heddiw."

Rhannu’r stori hon