Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu llwyddiant myfyrwyr

16 Tachwedd 2018

Group of students with certificates
As well as a certificate of achievement, winning students received a financial reward.

Mae israddedigion o Ysgol Fusnes Caerdydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu llwyddiant academaidd mewn dathliad yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion.

Yr Athro Roy Chandler oedd yn cyflwyno’r digwyddiad gwobrwyo, a’r Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth yr Ysgol, oedd yn cyflwyno’r gwobrau.

Dyfarnwyd cyfanswm o 49 o wobrau i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, eu hail flwyddyn a’u blwyddyn olaf, a hynny mewn amrywiaeth o gategorïau, o’r perfformiad gorau mewn modiwlau unigol i wobrau i’r myfyrwyr gorau ar draws rhaglenni gradd.

Dwy neu dair gwobr

Cafodd Sioned Murphy, myfyriwr BSc mewn Rheoli Busnes, a Megan Kiely, myfyriwr BScEcon mewn Economeg, ddwy wobr yr un am eu llwyddiannau yn eu blwyddyn gyntaf.

Aeth Glesni Mair Jones, sy’n astudio BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid, ac Amber Stevens, myfyriwr Economeg BScEcon, â dwy wobr yr un adref am eu cyflawniadau yn yr ail flwyddyn.

Yn fuddugol ym mlwyddyn tri roedd Yong Kang Low, myfyriwr Economeg a Chyllid BScEcon, Joshua Ramella, sydd wedi cyfuno ei radd mewn busnes ag astudio Iaith Ewropeaidd a Wei Hao Jason Ling, myfyriwr BSc Cyfrifeg a Chyllid, gan iddynt gael dwy wobr yr un wrth ffarwelio â’u hastudiaethau israddedig.

Amy Ellen Wilson gafodd lwyddiant mwyaf y noson, gan iddi sicrhau tair gwobr, gan gynnwys Gwobr Syr Julian Hodge, sy’n dathlu’r myfyriwr gorau ym mlwyddyn olaf yr holl gynlluniau gradd BSc mewn Rheoli Busnes.

“Eleni roedd yn arbennig o anodd gwahaniaethu rhwng y myfyrwyr oedd wedi perfformio orau ym mhob un o’n carfannau disgyblaeth, gan fod israddedigion nodweddiadol yr Ysgol o ansawdd mor uchel.”

Yr Athro Roy Chandler Professor of Accounting

Gwobr ariannol

Yn ogystal â thystysgrif cyflawniad, roedd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol.  Darparwyd y gwobrau ariannol gan noddwyr corfforaethol, neu trwy’r naw cronfa oedd ar gael ar gyfer gwobrau, llawer wedi’u buddsoddi er cof am athrawon ac academyddion o fri.

Ychwanegodd yr Athro Chandler: “Rydym wedi dyfarnu cyfanswm o £15,000 heno, a  charwn ddiolch ar ran yr Ysgol i’n noddwyr am ein helpu i ddathlu llwyddiant carfan arall o fyfyrwyr eithriadol.”

Daethpwyd â’r digwyddiad i ben gan Jackie Yip, Is-lywydd Addysg yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, a fu’n llongyfarch yr enillwyr ar eu cyflawniadau, ac yn dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Noddwyd gwobrau 2018 gan ACCA, Clwb Busnes Caerdydd, ICAEW a’i Gymdeithas Ddosbarth leol, MHA Broomfield Alexander, Sefydliad Hodge, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Vauxhall Finance a Gwasanaethau Ariannol Cymru.

Rhestrir yr holl israddedigion a enillodd wobr yn rhaglen y digwyddiad.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which we will support you career aspirations.