Ewch i’r prif gynnwys

Hanesion Cudd o Gaerau a Threlái

26 Hydref 2018

Rebecca and Archie

Efallai mai Archie wyth mis oed yw’r person ieuaf i fynd ar gwrs prifysgol.

Mae wedi bod yn dod gyda’i fam, Rebecca Davies, i’r cwrs Hanesion Cudd Caerau a Threlái. Dyma gwrs rhad ac am ddim yn rhan o raglen Byw’n Lleol Dysgu’n Lleol a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd a Phrosiect Treftadaeth CAER.

Roedd y ddau ymhlith carfan o fyfyrwyr sydd wedi bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn curadu arddangosfa. Bydd yr arteffactau y maent wedi’u dewis i’w gweld yn Amgueddfa Stori Caerdydd o heddiw ymlaen (Hydref 26 tan Dachwedd 4).

Yn rhan o’u hastudiaethau, fe gawsant y cyfle i ymweld â daeargelloedd Amgueddfa Cymru a chraffu ar lawer o arteffactau diddorol sydd wedi cael eu datgloddio neu eu darganfod ger Caerau a Threlái. Mae hanes cudd a chyfoethog i’r ardal hon yng Nghaerdydd, sy’n dyddio 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Prosiect Treftadaeth CAER wedi bod yn dwyn yr hanes hwn i’r fei unwaith eto. Mae CAER yn brosiect a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd a Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) sy’n sefydliad dros ddatblygu cymunedau. Yn ogystal, mae ysgolion lleol a thrigolion yn bartneriaid yn y fenter. Mae'n cynnwys pobl leol o bob oed yn creu gwybodaeth newydd am eu hanes a rennir, wrth helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd sylweddol sy'n wynebu cymunedau ar hyn o bryd.

“Mae wedi bod yn hwyl iawn,” meddai Rebecca. “Dim ond unwaith gwnaeth e bwdu, pan oedd eisiau bwyd arno. Buodd ei fwydo yn naeargelloedd yr amgueddfa yn brofiad rhyfedd. Ond fe gafodd gwtshys diri gan y bobl eraill ar fy nghwrs ac mae pawb wedi fy nghefnogi i ddod ag e gyda fi.”

Symudodd Rebecca, sy’n fam sengl i Archie a Henry, pump oed, i Gaerau eleni.

Roedd hithau’n awyddus i ddysgu mwy am ei milltir sgwâr newydd. Felly, aethant i Fryngaer Oes Haearn Caerau yn fuan ar ôl cyrraedd a dyma’r hyn a gyneuodd ei diddordeb mewn hanes. Y fryngaer yw un o safleoedd hanesyddol pwysicaf Caerdydd, ond nid oes llawer o bobl yn gwybod amdani.

“Doeddwn i ddim yn nabod unrhyw un yma, ac roeddwn i am ddod i nabod y lle,” meddai’r fam 31 oed. “Es i i ddigwyddiad hanner tymor gyda’r plant yn y fryngaer a chwrddais i â rhai pobl eraill. Gwnaethon nhw sôn am gwrs oedd yn dod i fyny y byddwn i’n ymddiddori ynddo efallai.”

Hidden Histories group

Yn ystod y gwersi, roedd yn rhaid i bob un o’r pum myfyriwr ddewis arteffact yr oeddynt am ganolbwyntio arno a’i arddangos i’r cyhoedd.

Dewisodd Rebecca lain gwydr o’r Oes Haearn a gafodd ei ddatgloddio ym Mryngaer Caerau yn 2013 yn ystod un o gloddiadau cymunedol Treftadaeth CAER yno.

“Glain hardd gyda melyn trwyddo yw e,” meddai. “Fe’i dewisais oherwydd iddo gael ei ddarganfod ger fy nhŷ. Mae’n anhygoel meddwl mai dyma rywbeth gafodd ei drafod gan ein cyndadau.”

Mae’r profiad wedi bod yn gefn cryf i Rebecca drwy gydol blwyddyn heriol.

Mae wedi gwneud cryn wahaniaeth i’m bywyd. Yn ogystal â’r holl wybodaeth mae’r cwrs wedi ei rhoi i mi, mae wedi bod yn brofiad gwych ac mae gen i grŵp o ffrindiau hyfryd bellach.

Rebecca Davies

Meddai Tiwtor y Cwrs, Melissa Julian-Jones: “Mae dod i nabod y grŵp a’u helpu i roi’r arddangosfa hon at ei gilydd wedi bod yn bleser go iawn. Dyma ffordd o ddwyn ynghyd ymchwil ac addysg gan wneud addysg yn fwy hygyrch a magu hyder. Roedd yn bwysig iawn i ni ein bod mor gynhwysol â phosibl a gwnaeth Archie y sesiynau’n llawer mwy o hwyl! Roedd pawb yn barod i helpu gyda’i goets baban ar y teithiau i’r maes hefyd. Mae’r arddangosfa’n gyffroes iawn ac yn tystio i waith caled y grŵp.”

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn glir iawn ynghylch ein hymrwymid i’r gymuned leol ac mae’r rhaglen hon wedi dod â phobl leyg i galon ein gwaith academaidd, ac maent wedi dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd. Dylai’r myfyrwyr sydd wedi gweithio ar yr arddangosfa hon gael eu cymeradwyo am eu hymdrechion i arddangos ychydig o’r hanes anghredadwy sydd wrth wraidd Caerau a Threlái.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden yng Nghyngor Caerdydd, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae Amgueddfa Stori Caerdydd yn gwneud gwaith gwych yn cydweithio â gwahanol sefydliadau er mwyn cynnig ystod gyffrous o arddangosfeydd a gweithgareddau amrywiol sy’n ymgysylltu â’n cymunedau lleol ac yn eu hysbrydoli.

“A minnau’n gynghorydd lleol yng Nghaerau, mae Prosiect Treftadaeth CAER yn arbennig o ddiddorol ac yn amlygu pwysigrwydd y safle hanesyddol hwn.  Yn ogystal â gwneud yn siŵr bod hanes ac archaeoleg ar gael i bawb, mae’r prosiect yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu sgiliau newydd a dysgu rhagor am eu hardal leol.”

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Amgueddfa Stori Caerdydd ddydd Gwener 26 Hydref tan ddydd Sul 4 Tachwedd.

Eleni, mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i gynnal cyrsiau allgymorth i’r gymuned ar y cyd â First Campus, Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-ddwyrain Cymru. Os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Helena Fern drwy ebostio firstcampus@caerdydd.ac.uk