Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad yn archwilio hanesau cudd

24 Hydref 2018

Image of twelve men and women of mixed ethnicities

Prosiect ymchwil a ariennir gan y Loteri yn tynnu sylw at forwyr masnach anhybsbys a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn darganfod eu tarddiad ethnig.

Cyd-drefnwyd digwyddiad yn ddiweddar gan Academyddion o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd a’r Horn Development Association (HDA), sefydliad lleol sydd yn cefnogi cyfleoedd i gymunedau BME, i gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Dduon.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, gyda Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, yn noddi ac yn cymryd rhan. Roedd yn gyfle i’r HDA rannu canlyniadau prosiect ymchwil 18 mis o hyd, wedi’i gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sy’n cydnabod morwyr masnach a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn y gorffennol, labelwyd y dynion hyn fel Prydeinwyr ar restrau enwau’r rhai a gollwyd, gan wadu lle llawn a phriodol iddynt wrth goffáu’r rhai a gollwyd yn y rhyfel. Mae'r ymchwil wedi darganfod ble cafodd y dynion eu geni a ble roedden nhw'n byw, ac felly'n rhoi parch teilwng iddynt am eu haberth.

Daeth amrediad o bobl o Lywodraeth Cymru, y cyngor lleol a chynrychiolwyr academaidd i’r digwyddiad. Roedd sawl siaradwr gan gynnwys y Cynghorydd Fay Cunningham o dde Tyneside, Bob Purkiss sy’n gyn-forwr masnach, Ysgrifennydd undeb llafur, ac aelod o Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol i Gymru.

Roedd Dr Richard Gale a Dr Andrew Williams o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio hefyd yn bresennol. Maent wedi bod yn gweithio gyda’r HDA yn rhan o brosiect Porth Cymunedol arloesol a blaengar Prifysgol Caerdydd, sy’n ceisio helpu i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddo, drwy feithrin partneriaethau rhwng y Brifysgol a’r gymuned.

Bydd Dr Gale a Dr Williams yn gweithio gyda’r HDA i gefnogi ymchwil ddilynol fydd yn ceisio ail-greu hanes amlddiwylliannol dinasoedd porthladd de Cymru yn hanner cyntaf yr 20fed Ganrif.

Dywedodd Dr Gale: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r HDA a’u helpu i barhau â’u gwaith gwych yn archwilio, proffilio ac yn dathlu effaith a chyfraniadau grwpiau ethnig gwahanol ar dde Cymru – yn ddiwylliannol, economaidd a chymdeithasol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.