Ewch i’r prif gynnwys

Nid mater chwerthin

24 Hydref 2018

Stand up mic

Byddai rhywun yn tybio bod diddanu a dweud jôcs ar lwyfan yn llawer iawn o hwyl, ond nid mater chwerthin yw’r amodau gwaith sy’n gysylltiedig â bod yn ddigrifwyr yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Stockholm.

Daeth i’r amlwg yn yr astudiaeth bod digrifwyr yn aml yn teimlo’n bryderus ac yn rhwystredig oherwydd yr amodau gwaith ansefydlog a’r ansicrwydd ariannol.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, fe gynhaliodd Dr Dimitrinka Stoyanova Russell a Dr Nick Butler gyfweliadau gydag 64 o ddigrifwyr amser llawn o’r DU am eu profiadau.

Mae’r canfyddiadau’n dangos nad ar y llwyfan yn unig y mae’r perfformwyr yn chwarae rôl. Fe gyfaddefodd llawer ohonynt eu bod yn cyfleu delwedd gadarnhaol o’u hunain gan ddangos eu bod yn fodlon gweithio’n ddi-dal neu am ychydig iawn o arian er mwyn ceisio ffafr hyrwyddwyr clybiau comedi.

Daeth i’r amlwg i ymchwilwyr fod digrifwyr yn aml yn cuddio teimladau o bryder a rhwystredigaeth o ganlyniad i’w hansicrwydd ariannol er mwyn cynnal perthynas dda gyda hyrwyddwyr. Ychydig iawn ohonynt oedd yn fodlon wynebu eu cyflogwyr ynghylch cyflogau annigonol neu gael eu talu’n hwyr.

Daeth i’r casgliad mai’r cyfan y mae’r strategaethau hyn o ‘reoli emosiynau’ yn llwyddo i’w wneud yn y pen draw yw gwneud arferion cyflogaeth annheg yn fwy cyffredin. Fodd bynnag, roedd digrifwyr yn cydnabod bod cynnal rhwydwaith eang o gysylltiadau yn y diwydiant yn hanfodol er mwyn llwyddo.

Meddai Dr Russell, Darlithydd Rheoli Adnoddau Dynol yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Llafur cariad yw gwaith llawrydd creadigol. Mae cyfleoedd i fynegi eich hunain yn dod ynghyd ag amodau gwaith sy’n cymryd mantais.

Drwy gyfleu delwedd gadarnhaol, mae digrifwyr yn atgyfnerthu’r arfer o weithio’n rhad ac am ddim yn anfwriadol ymhlith y rhai sy’n perfformio’n fyw. Mae eu bodlonrwydd i weithio’n rhad ac am ddim yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o gael eu pig i mewn yn yr alwedigaeth ac fel modd o gael rhagor o waith yn nes ymlaen yng ngyrfaoedd y digrifwyr.

Dr Dimitrinka Stoyanova Russell Lecturer

O ganlyniad, mae digrifwyr yn cytuno i wneud gigs am dâl isel, hyd yn oed ar ôl bod yn gweithio yn y maes ers blynyddoedd lawer.

Er bod yr astudiaeth hon yn canolbwyntio ar waith yn y diwydiannau creadigol, mae’r tîm yn dadlau y gallai eu canfyddiadau lywio rhagor o ymchwil am arferion cyflogaeth ehangach.

Meddai Dr Butler, Athro Cynorthwyol yn Ysgol Busnes Stockholm: “Mae’r dasg hon gymaint â hynny’n fwy angenrheidiol gan fod yr amodau gwaith yn y diwydiannau creadigol yn cael eu hefelychu y tu hwnt i’r celfyddydau perfformio. Gwaith achlysurol ac anffurfioldeb yw’r drefn arferol yng nghyd-destun ‘gigs’ ac mewn meysydd galwedigaethol eraill.

“Gallai ymchwil fel hon ddangos sut mae gweithwyr llawrydd yn yr economïau hyn yn defnyddio dulliau rheoli emosiynau er mwyn creu perthynas gyda nifer o gyflogwyr. Gall hefyd, fel yn ein hastudiaeth ni, ddisgrifio beth sy’n digwydd pan mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn gorfod goddef ansicrwydd gyda gwên.”

Cafodd yr astudiaeth ‘No funny business: Precarious work and emotional labour in stand-up comedy’ ei hariannu gan yr Academi Brydeinig a’i chyhoeddi yn Human Relations.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.