Ewch i’r prif gynnwys

Ffiesta Ffuglen yn troi’n farddonol

17 Hydref 2018

Fiction Fiesta logo

Bydd pum bardd o fri ac un arbenigwr ar straeon byrion yn perfformio yn Ffiesta Ffuglen - cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus rhad ac am ddim wedi’i threfnu gan Brifysgol Caerdydd.

Mae Ffiesta Ffuglen, sydd wedi’i guradu gan Bennaeth Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yn ddathliad blynyddol o lenyddiaeth ar draws diwylliannau, sy’n ysgogi sgyrsiau rhwng awduron o Gymru ac America Ladin ers 2012.

Barddoniaeth fydd yn cael y sylw pennaf eleni, gan gyflwyno awduron nodedig o Ogledd a De America, ochr yn ochr â Chymru, Iwerddon a’r Alban.

Nos Lun 22 Hydref, bydd y bardd o’r Alban, W.N. Herbert, ac ysgrifennydd a chyfieithydd o’r Ariannin, Andrés Ehrenhaus, yn ymuno â’r bardd a’r Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol o Ddulyn, Ailbhe Darcy, i ddarllen eu gwaith. Mae lleoedd yn brin, ond mae tocynnau yn rhad ac am ddim wrth gadw lle ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn yn Flute and Tankard Caerdydd (6.30pm-9.30pm).

Nos Fawrth 23 Hydref, bydd Jorge Fondebrider o’r Ariannin ac Alexandra Teague o’r Unol Daleithiau yn ymddangos ochr yn ochr â Richard Gwyn, sylfaenydd Ffiesta Ffuglen, yn Virgin Money Lounge ar yr Aes (7pm-8.30pm). Mae lleoedd yn brin, ond mae tocynnau yn rhad ac am ddim wrth gadw lle ymlaen llaw.

Mae’r noson hefyd yn nodi lansiad gwaith diweddaraf Gwyn, Stowaway: A Levantine Adventure. Wrth fapio cynnydd teithiwr traws-hanesyddol, hanner-chwedlonol ar draws dwyrain Môr y Canoldir, mae’r llyfr o gerddi yn dilyn ôl digwyddiadau; o gwymp Byzantium i ymddangosiad y Wladwriaeth Islamaidd, neu Daesh.

Ar yr un diwrnod, cynhelir trafodaeth hefyd ar gyfieithu’r clasuron (dydd Mawrth 23 Hydref, 2pm-5pm, Virgin Lounge). I gadw lle ar gyfer y digwyddiad, ebostiwch: Gwyn@caerdydd.ac.uk

Caiff Ffiesta Ffuglen 2018 ei gefnogi gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Virgin Money Lounge. I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Ffiesta Ffuglen, dilynwch ni ar Facebook.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.