Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant cynyddol i un o raddedigion Caerdydd

17 Hydref 2018

Phytoponics tomatoes

Mae un o raddedigion Prifysgol Caerdydd sydd wedi dyfeisio system dyfu hydroponig ar gyfer amaethyddiaeth wedi codi'r arian sydd ei angen i gynnal treialon ehangach.

Mae Phytoponics, busnes newydd sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi cael £300,000 o arian newydd yn dilyn £200,000 a godwyd yn gynharach eleni. Mae’n arbenigo mewn datblygu technoleg diwylliant dŵr dwfn hydroponig ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy.

Sefydlwyd y cwmni gan raddedigion Adam Dixon a Luke Parkin pan oedd Adam yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Eu nod oedd creu systemau hydroponig wedi'u hoptimeiddio i gynhyrchu cnydau gwell na systemau traddodiadol gyda’r potensial o fodloni'r galw am fwyd byd-eang mewn ffyrdd cynaliadwy.

Mae technoleg Hydrosac â phatent Phytoponic yn barod ar gyfer tyfu masnachol cyfaint uchel, ar ôl profi ei hun trwy gynhyrchu dwy dunnell o domatos o ansawdd uchel trwy brosiect peilot yng nghyfleuster tŷ gwydr y cwmni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Adam Dixon, Prif Swyddog Gweithredol Phytoponics a'r Cyd-sylfaenydd: "Rydym mor falch o gael yr arian hwn gan fuddsoddwyr cefnogol mor amlwg. Bydd y cronfeydd newydd hyn yn rhoi'r arian gweithredu angenrheidiol i ni i ddarparu treialon o'n technoleg tra'n arbrofi gyda mathau eraill o gnydau uchel eu gwerth. Yn ddiweddar, llofnodwyd contract gyda thyfwr masnachol mawr a fydd yn defnyddio ein technoleg i dyfu tomatos ar gyfer dwy archfarchnad fawr ar ddechrau’r flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn bwriadu cyflogi gweithwyr newydd i helpu gyda datblygiad technegol a masnachol ".

Daw'r arian gan fuddsoddwyr presennol a nifer o fuddsoddwyr angel newydd dan arweiniad Smart Anchor Capital.

Eglurodd Melisa Lawton, buddsoddwr entrepreneur angel newydd, pam ei bod yn cefnogi'r busnes newydd: "Roedd buddsoddi yn Phytoponics yn benderfyniad rhwydd ar ôl i mi gwrdd ag Adam a Luke. Mae eu gweledigaeth yn argyhoeddiadol, ynghyd â photensial eu technoleg Hydrosac, yn enwedig y ffaith y gellir ei defnyddio mewn gwledydd lle mae dŵr yn brin neu mewn sefyllfaoedd cymorth dyngarol.”

Meddai Mark Hindmarsh, Cyd - Sylfaenydd Smart Anchor Capital: "Mae'r tîm wedi cyflawni llawer iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a heb fawr o adnoddau. Er gwaethaf hynny, maent wedi denu sylw partneriaid a chwsmeriaid posibl o'r Unol Daleithiau, India, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Affrica, Canada a llawer o wledydd eraill.

"Rydym yn gyfranddalwyr newydd ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut bydd y cwmni yn datblygu yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.