Ewch i’r prif gynnwys

Tomatos yn Torri Tir Newydd

3 Medi 2018

Tomatoes

Mae system ffermio arobryn cynnyrch uchel a ddatblygwyd gan un o raddedigion Prifysgol Caerdydd yn cael ei threialu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Adam Dixon, entrepreneur a raddiodd o Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i dyfu dau dunnell o domatos mewn tŷ gwydr bach yr haf hwn, gan ddefnyddio’i system Phytoponics, sydd dan batent.

Busnes newydd amaethyddol yw Phytoponics, a sefydlwyd ar y cyd â Luke Parkin, ac mae’n deillio o hobi hydroponig Adam.

Bwriad y treial yw dangos i fuddsoddwyr botensial y system, sy'n cynhyrchu cnwd toreithiog ac yn defnyddio 10 gwaith llai o dir a dŵr na phrosesau amaethyddol eraill, heb ddefnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr.

Mae’r cynhaeaf cyntaf o domatos (Roma Returno) o’r treial wedi'i werthu i gwsmeriaid lleol gan gynnwys Matteo Monacelli, y Cogydd o’r Pier Brenhinol yn Aberystwyth. Bydd y cynaeafu’n parhau i mewn i fis Tachwedd, ac mae cynlluniau i uwchraddio i fferm beilot maint masnachol ar ôl ei gwblhau.

Mae’r system Phytoponics, a ddisgrifiwyd fel ‘Jacuzzi mewn bag’, yn ymestyn ac yn llenwi ag aer i roi lloches ddiogel i ystod o blanhigion masnachol, o salad i winwydd, fel bod y planhigion yn tyfu’n aruthrol gyflym.

Mae’r uned, sydd dan sêl, yn darparu dŵr llawn maetholion i’r gwreiddiau drwy awyrydd integredig, ac yn cadw’r lleithder i mewn, ond plâu allan.

Meddai Adam, "Mae tyfu dau dunnell o domatos mewn tŷ gwydr bach 50m2 o fewn 6 mis yn gyflawniad gwych, ond yn fy marn i mae angen i ni gynhyrchu llawer mwy yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig os ydym i fod yn hunangynhaliol wrth dyfu ein ffrwythau a’n llysiau ein hunain fel gwlad.

"Mae llawer o heriau amaethyddol yng Nghymru oherwydd y ddaearyddiaeth anodd, sy’n llawn mynyddoedd a phriddoedd heli. "Rwy’n credu bod cyfle gwych i Gymru roi technolegau blaengar newydd ar waith, gan gynnwys Phytoponics, er mwyn mynd i'r afael â diogelwch bwyd mewn ffordd gynaliadwy a dod yn llai dibynnol ar fewnforion."

https://www.youtube.com/watch?v=Y7ReU6dtJNM

Mae Phytoponics ac Adam eisoes wedi cipio nifer o wobrau, gan gynnwys Busnes Newydd Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru 2017, Dyfarniad y CU ‘Young Champion of the Earth’ yn Ewrop 2017, a Gwobr ‘LiveWIRE Smarter Future’ Shell yn 2017.

Eleni, mae Adam yn un o dri hyrwyddwr ifanc y ddaear sydd gan y Cenhedloedd Unedig a ddewiswyd i fod yn Arloeswr Hinsawdd yn y cyfnod sy’n arwain at Uwchgynhadledd Fyd-eang Gweithredu ynghylch Hinsawdd, fydd yn cael ei chynnal yn San Francisco yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r Arloeswyr Hinsawdd wedi cael eu dewis o wahanol rannau o’r byd, ac maen nhw’n adlewyrchu natur bellgyrhaeddol yr Uwchgynhadledd Fyd-eang Gweithredu ynghylch Hinsawdd, sy’n ceisio cyfuno’r gweithgaredd gorau rhyngwladol ym maes newid yn yr hinsawdd.

Mae Adam, sydd wedi profi ei fod yn llais angerddol sy'n dod i'r amlwg ynghylch materion hinsawdd, wedi cael ei ddewis i gynrychioli Ewrop, ac mae’n lledaenu ymwybyddiaeth o nodau uchelgeisiol yr uwchgynhadledd yn y cyfnod cyn y digwyddiad; gan ddangos bod modd i bobl gyffredin sy’n credu’n gryf mewn rhywbeth wneud pethau eithriadol os byddant yn dewis gweithredu.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.