Baner 'byw' i ddathlu'r gymuned LGBT+
21 Medi 2018
Mae staff a myfyrwyr wedi plannu bylbiau i ail-greu baner Enfys 'byw' i ddathlu cymuned LGBT+ y Brifysgol.
Bydd y blodau gwahanol – cennin pedr, tiwlipau, dail pen neidr, clychau dulas - yn blodeuo gan greu lliwiau'r faner yn y gwanwyn sydd i ddod.
Cafodd y prosiect ei arwain gan Lee Raye o Dîm Cynnal a Chadw'r Tiroedd a'i gefnogi gan Swyddfa'r Is-Ganghellor, Ystadau ac Enfys, rhwydwaith Staff LGBT+ y Brifysgol.
Roedd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, a'r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford, ymysg y nifer o staff a myfyrwyr a blannodd y bylbiau.
Cafodd y Brifysgol ei henwi'n un o 15 cyflogwr gorau Stonewall yn 2018.
Y faner enfys yw symbol y gymuned LGBT+ a mudiad pride, a chafodd ei chreu ym 1978.
Mae’r fersiwn fwyaf poblogaidd yn cynnwys chwe lliw - coch, oren, melyn, gwyrdd, glas a fioled.
Yn wreiddiol, roedd y lliwiau'n cynrychioli bywyd, iachau, heulwen, natur, sirioldeb ac ysbryd; fodd bynnag, mae'r gwahanol liwiau bellach yn cynrychioli gwahanol gymunedau LGBT+.