Ewch i’r prif gynnwys

Un o 100 Cyflogwr Gorau Stonewall

31 Ionawr 2018

Stonewall

Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith y 15 uchaf yn y DU o gyflogwyr hoyw-gyfeillgar yn ôl Mynegai diweddaraf Stonewall ar gyfer Cydraddoldeb yn y Gweithle a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 31 Ionawr, 2018).

Mae Caerdydd wedi codi i’r 14eg safle, ei pherfformiad gorau erioed yn y Mynegai ac mae hefyd y brifysgol uchaf ei safle yn y DU.

Rydym wedi codi naw safle ers 2017 yn ogystal â chael ein cydnabod am y tro cyntaf fel un o’r Cyflogwyr Traws Gorau i gydnabod ein ymrwymiad at gydraddoldeb trawsrywiol.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yw un o'r meincnodau allweddol yr ydym yn eu defnyddio i sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i ymrwymo i gydraddoldeb LGBT+.

“Mae cyrraedd y 14eg safle, cynnydd o’r 23ain safle yn 2017, yn dyst i ymroddiad a gwaith caled pawb sy'n gysylltiedig ac yn brawf eglur o’n hymrwymiad parhaus i amrywiaeth.

“Rydym hefyd yn hynod o falch o gael cydnabyddiaeth ychwanegol trwy gael ein henwi’n un o Gyflogwyr Traws Gorau 2018 ac yn un o ‘Gyflogwyr Traws Gorau Stonewall’.

“Er gwaethaf ein llwyddiant, nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynnig amgylchedd cynhwysol, croesawgar a chynhyrchiol ar gyfer pob aelod o staff a myfyrwyr.”

Mae 100 Cyflogwr Gorau Stonewallyn archwiliad blynyddol o ddiwylliant y gweithle ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, ac mae'n cynnwys y cyflogwyr sy'n perfformio orau ym Mynegai Stonewall ar gyfer Cydraddoldeb yn y Gweithle.

Y Mynegai uchel ei barch hwn yw un o’r mesurau allweddol a ddefnyddir gan lawer o gyflogwyr i fesur cynnydd ar gydraddoldeb.

Dywedodd Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, Rhwydwaith LGBT+ y Brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr ôl-raddedig: “‘Pan sefydlwyd y rhwydwaith gennym 12 mlynedd yn ôl, go brin i ni erioed ddychmygu adeg pan fyddai’r Brifysgol ymhlith y 15 uchaf yn y Mynegai ar gyfer Cydraddoldeb yn y Gweithle.

“Mae hyn yn dyst i waith caled y bobl sy’n dal LGBT+ yn agos at eu calonnau a chefnogaeth ddi-ffael uwch-arweinwyr y Brifysgol wrth weithio gyda ni i wneud y newidiadau hanfodol i greu amgylchedd lle gall bobl fod yn nhw eu hunain a ffynnu wrth astudio neu weithio.

“Hoffwn i ddweud diolch yn fawr i Bwyllgor Enfys. Mae hyn yn ymdrech ar y cyd ac mae’r gydnabyddiaeth ychwanegol fel un o’r Cyflogwyr Traws Gorau yn hufen ar y gacen ar y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma gan ein hyrwyddwyr traws, Evan ac Onyx.

“Mae llawer mwy i’w wneud ond rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan ohono.”

Ceir rhestr lawn o 100 Cyflogwr Gorau Stonewall ar: www.stonewall.org.uk.

Rhannu’r stori hon