Ewch i’r prif gynnwys

Arweinydd Prosiect Phoenix yn cael ei wahodd i ddigwyddiad Dug Caergrawnt

21 Medi 2018

Judith Hall

Mae arweinydd Prosiect Phoenix uchel ei broffil Prifysgol Caerdydd wedi’i wahodd i dderbyniad arbennig gyda Dug Caergrawnt i ddathlu cysylltiadau DU-Namibia.

Bydd yr Athro Judith Hall yn mynd i’r digwyddiad ym mhrifddinas Namibia, Windhoek, gydag unigolion blaenllaw o sawl sector gan gynnwys cadwraeth, busnesau Prydeinig, cynrychiolwyr o lywodraeth Namibia ac ymgyrchwyr iechyd meddwl.

Mae Prosiect Phoenix yn gweithio gyda Phrifysgol Namibia i leihau tlodi, hyrwyddo iechyd a chefnogi’r amgylchedd.

Dywedodd yr Athro Hall, fu hefyd yn gyfrifol am sefydlu elusen Mothers of Africa: “Rydw i wrth fy modd bod gwaith gwych Prosiect Phoenix yn cael ei gydnabod fel hyn.

“Mae nifer fawr o gydweithwyr yng Nghymru a Namibia wedi gweithio’n eithriadol o galed i wneud yn siŵr bod y prosiect yn llwyddiant ac rydym eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o fywydau.

Caiff y derbyniad ar dydd Mawrth 25 Medi ei gynnal gan Uwch-gomisiynydd Prydain i Namibia, Kate Airey OBE, oedd yng Nghaerdydd yn ddiweddar pan dderbyniodd yr Is-ganghellor, yr Athro Lazarus Hangula, Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd.

Trydarodd Ms Airey: “Wrth fy modd fy mod yn croesawu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog William i Namibia wythnos nesaf. Dyma fydd yr ymweliad Brenhinol swyddogol cyntaf ers 1991 ac mae’n gyfle gwych i gryfhau’r berthynas rhwng dau o bartneriaid y Gymanwlad.”

Mae rhai o uchafbwyntiau gwaith Prosiect Phoenix yn Namibia yn cynnwys:

  • addysgu meddygon a nyrsys ynghylch gofalu am y cleifion gwannaf yn ystod llawdriniaethau
  • creu sector meddalwedd ffyniannus
  • cefnogi diwylliant ac ieithoedd cenedlaethol
  • galluogi’r heddlu a’r gwasanaethau ambiwlans i achub bywydau ar ôl damweiniau ar y ffyrdd

Mae ymweliad Dug Caergrawnt Paratowyd â Namibia ar 24 a 25 Medi yn rhan o daith gwaith preifat i Affrica yn rhinwedd ei rôl yn Llywydd grŵp ymbarél cadwraeth United for Wildlife a Patron of conservation organisation Tusk.

Bydd hefyd yn ymweld â Tanzania a Kenya ar y daith, cyn digwyddiad Illegal Wildlife Trade Conference 2018 yn Llundain 11 a 12 Hydref 2018.

Nod y gynhadledd yw cryfhau partneriaethau rhyngwladol ar draws ffiniau a thu hwnt i lywodraeth. Bydd yn canolbwyntio ar dair thema: mynd i’r â masnachu bywyd gwyllt anghyfreithlon, meithrin partneriaethau a chau marchnadoedd.

Rhannu’r stori hon

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yn gweithio ar ran pobl Namibia a Chymru.