Oes modd colli a chanfod atgofion?
4 Awst 2015
Mae gwyddonwyr y Brifysgol yn credu bod atgofion yn fwy cadarn nag a dybiwyd o’r blaen
Mae tîm o wyddonwyr y Brifysgol yn credu eu bod wedi dangos bod atgofion yn fwy cadarn nag yr oeddem yn ei feddwl, ac wedi adnabod y broses yn yr ymennydd a allai helpu i ganfod atgofion coll neu gladdu atgofion drwg, a pharatoi'r ffordd ar gyfer cyffuriau a thriniaeth newydd ar gyfer pobl sydd â phroblemau cof.
Mae tîm o wyddonwyr o Ysgol Biowyddorau’r Brifysgol a’r Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl wedi canfod y gallai atgoffwyr wrthdroi'r amnesia a achosir gan ddulliau yr ystyriwyd yn y gorffennol eu bod yn achosi i lygod mawr golli eu cof yn gyfan gwbl. Cyhoeddwyd eu canfyddiadau yn y cyfnodolyn Nature Communications.
"Mae gwaith ymchwil blaenorol yn y maes hwn wedi canfod bod atgof a ddaw yn ôl yn sensitif i ymyrraeth gan wybodaeth arall, ac mewn rhai achosion, gellir ei ddileu’n gyfan gwbl. “Mae ein gwaith ymchwil yn herio’r farn hon, ac rydym yn credu ei fod yn profi nad hyn yw’r achos," yn ôl Dr Kerrie Thomas, arweinydd y gwaith ymchwil.
"Er ein bod wedi defnyddio techneg yn yr ymennydd yr ystyrir ei fod yn arwain at amnesia llwyr, drwy ein gwaith ymchwil, rydym wedi gallu dangos y gellir canfod yr atgofion hyn, gyda chymorth atgoffwyr cryf.”
Er mai mewn llygod mawr y gwelwyd y canlyniadau hyn, mae’r tîm yn gobeithio y gellir trosi’r gwaith ymchwil ar gyfer bodau dynol, ac y gellir datblygu cyffuriau a thriniaethau newydd ar gyfer pobl sy'n dioddef o anhwylderau’r cof.
Ychwanegodd Dr Thomas: "Mae tipyn o ffordd i fynd o hyd nes byddwn yn gallu helpu pobl sydd â phroblemau cof.
"Fodd bynnag, mae’r anifeiliaid hyn yn rhoi adlewyrchiad cywir o’r hyn sy'n digwydd mewn bodau dynol, ac yn awgrymu bod ein hatgofion hunangofiannol, hanes yr hunan, yn cael eu cymylu gan atgofion newydd, yn hytrach na’u colli’n gyfan gwbl.
"Mae hyn yn gyffrous dros ben yng nghyswlt trin salwch seiciatrig sy'n gysylltiedig ag anhwylderau’r cof, fel anhwylder straen wedi trawma, sgitsoffrenia a seicosis.
"Bellach, gallwn ddyfeisio cyffuriau newydd neu strategaethau ymddygiad sy'n gallu trin y problemau cof hyn, gan wybod na fyddwn yn dileu profiadau blaenorol," ychwanegodd.