Ewch i’r prif gynnwys

Corff y diwydiant cynllunio trefol yn cydnabod rhagoriaeth ymchwil

17 Ionawr 2003

Cyrhaeddodd Dr Richard Gale, o’r Ysgol Daeryddiaeth a Chynllunio, a Dr Andrew Rogers, o Brifysgol Roehampton, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Syr Peter Hall ar gyfer Ymgysylltiad Ehangach.

Mae'r enwebiad yn cydnabod archwiliad unigryw Dr Gale a Dr Rogers o effaith polisi ac ymarfer cynllunio ar grwpiau ffydd yn y DU.

Traweffaith ymchwil

Mae eu hymchwil yn edrych ar effaith cynllunio ar grwpiau ffydd sydd am sefydlu lleoliadau crefyddol ar ôl mudo, ac mae’n dangos yr anawsterau y mae Mwslimiaid a Christnogion o Affrica yn eu hwynebu’n gyson. Fel arfer, mae cyfradd gwrthod caniatâd cynllunio i'r ddau grŵp hyn yn anarferol o uchel. Mae Dr Gale a Dr Rogers wedi nodi tair ffordd eang y mae cynllunio'n effeithio ar sefydlu a datblygu safleoedd crefyddol newydd:

  1. Fel arfer, mae rheolaeth dros leoliad cyfleusterau crefyddol yn atal ymdrechion i sefydlu safleoedd crefyddol ger cymunedau preswyl. O ganlyniad i hynny, maent yn cael eu lleoli ymhell o'u cynulleidfaoedd mewn parthau diwydiannol a chyfadeiladau manwerthu.
  2. Mae cynllunio'n dylanwadu ar ddyluniadau pensaernïol adeiladau crefyddol newydd, ac mae hynny'n aml yn eu rhwystro rhag cynnwys cyfeiriadau at draddodiadau pensaernïol crefyddol yn yr arddull.
  3. Wrth gyfyngu ar batrymau defnydd, mae cynllunio'n cyfyngu ar nodweddion defodol ac ymarferol adeiladau crefyddol, megis gosod amodau ar oriau defnydd nad ydynt yn cyd-fynd ag amserau gweddïo Mwslimiaid.

Yn ôl Dr Gale: "Mae’r ffaith fod yr anawsterau hyn yn parhau wedi golygu bod angen mwy o ymgysylltu a gweithgarwch rhwng grwpiau ffydd a'r proffesiwn cynllunio.

"Fodd bynnag, gall diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth yn y berthynas beri rhwystredigaeth. Er enghraifft, ceir diffyg ymwybyddiaeth ar ran y cynllunwyr o arferion diwylliannol, ymrwymiadau defodol ac ardaloedd preswyl y grwpiau ffydd, ac mae angen gwell dealltwriaeth ar ran y grwpiau ffydd o egwyddorion a gofynion cynllunio.

Aeth yn ei flaen: "Mae ein gwaith wedi cynnwys sefydlu'r Rhwydwaith Ffydd a Lle yn 2014, a ariannwyd gan AHRC. Drwy’r rhwydwaith hwn, rydym wedi trefnu cyfres o sgyrsiau rhwng cynllunwyr awdurdod lleol, grwpiau ffydd ac academyddion, i geisio gwella dealltwriaeth ar y cyd o sut y gall cynllunio fynd i’r afael â heriau amrywiaeth crefyddol yn fwy effeithiol."

Cyhoeddodd y rhwydwaith Hysbysiad Polisi Grwpiau Ffydd a'r System Gynllunio yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2015. Roedd yn cynnwys awgrymiadau ac egwyddorion i’w mabwysiadu gan gynllunwyr a grwpiau ffydd. Cafodd ei anfon at bob awdurdod cynllunio lleol yn Lloegr, cyn ei ymestyn i Gymru, gyda sêl bendith Archesgob Cymru. Bu Dr Gale a Dr Rogers hefyd yn cydweithio ag Ymgynghorwyr Cynllunio CAG, sy'n aelodau o rwydwaith FPN. Fe wnaethant gyflwyno cais llwyddiannus i Fwrdeistref Barking a Dagenham, Llundain er mwyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o anghenion ffydd a chynllunio'r fwrdeistref.

Mae Dr Richard Gale wedi sicrhau arian gan Gyngor Cymdeithasol ac Ymchwil Ewrop er mwyn ymestyn cyrhaeddiad ei waith yng Nghymru, er mwyn cefnogi cyfres o sgyrsiau ffydd a chynllunio yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.