Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cefnogi digwyddiad Menywod mewn Arloesedd

6 Medi 2018

Women in Innovation logo

Mae digwyddiad drwy'r dydd ym Mhrifysgol Caerdydd yr hydref hwn yn cynnig cyfle i fenywod sy'n arloeswyr rwydweithio, dysgu oddi wrth arbenigwyr a chlywed gan fenywod llwyddiannus sy'n entrepreneuriaid.

Mae 'Adeiladu Llwyddiant', a gynhelir gan y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (y Knowledge Transfer Network – KTN), yn rhan o ail raglen Menywod mewn Arloesedd Innovate UK.

Yn 2016, canfu ymchwil bod menywod i’w cyfrif am 14% o'r rhai a gyflwynodd gais mewn cystadlaethau ariannu Innovate UK – er bod cyfraddau llwyddiant rhwng y naill ryw a'r llall yn gyfartal, i raddau helaeth.

Ers y gwobrau Menywod mewn Arloesedd cyntaf ym mis Mai 2016, mae'r ffigur wedi cynyddu i 24%.

Mae sesiwn y bore yn cynnwys trosolwg o'r tirlun ariannu a chyllid, gan gynnwys cymorth rhanbarthol, a chyfleoedd gan Innovate UK yn y dyfodol.

Mae pedwar gweithdy ymarferol – cyn ac ar ôl cinio sy'n mynd i'r afael â materion allweddol sy'n wynebu arloeswyr:

  • Ysgrifennu grant: sut i ysgrifennu cais llwyddiannus am grant? Sut allwch chi ysgrifennu cais sy'n rhagori ar geisiadau eraill a chyflwyno achos busnes cystadleuol?
  • Dilysiad y Farchnad: mae'r gweithdy hwn yn helpu menywod sy'n arloeswyr i ddangos bod llwybr clir i'r farchnad ar gyfer cynnyrch, ac yn dangos sut i gyfathrebu â chwsmeriaid am eu gwerth.
  • Cynfas arloesedd: gweithdy a ddatblygwyd gan KTN sy'n gosod fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â rhwystrau a phroblemau o bwys ar y ffordd at arloesedd.
  • Parodrwydd buddsoddwyr: yn helpu arloeswyr i ddeall sut i ddod o hyd i fuddsoddwyr ymroddedig ac sydd â diddordeb, a sut i gyflwyno syniadau mewn modd cofiadwy.

Yn ôl yr Athro Kim Graham, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: "Mae cynyddu nifer y ceisiadau gan fenywod ar gyfer arian Innovate UK yn hanfodol er mwyn hybu cynhyrchiant yn y DU, a datblygu sector busnes amrywiol.  Mae cyfradd yr ymgeiswyr wedi cynyddu ers y digwyddiad Menywod mewn Arloesedd cyntaf, gan ddangos gwerth cymorth wedi'i deilwra er mwyn mynd i'r afael â'r gwahaniaeth o ran rhywedd yn nifer yr ymgeiswyr.

"Bydd y gweithdai ymarferol yn codi ymwybyddiaeth o'r ffrydiau ariannu perthnasol, yn dangos sut i fanteisio arnyn nhw, a chynnig cyngor cadarnhaol ar barodrwydd y farchnad a datblygu partneriaethau cydweithredol. Byddant yn helpu i baratoi menywod sy'n arloeswyr i gyflwyno ceisiadau cryf i Innovate UK, gan barhau i fynd i’r cyfeiriad cywir o ran denu nifer cyfartal o geisiadau gan ddynion a menywod.

Y digwyddiad yng Nghaerdydd yw'r cyntaf mewn cyfres o bedwar digwyddiad Adeiladu Llwyddiant KTN ar draws y DU a gynhelir hefyd yn Glasgow, Llundain a Belfast.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Llun 5 Tachwedd. Mae'n dechrau am 8:30am ac yn gorffen am 6:30pm, gyda derbyniad gwin a chaws.

Mae'n agored i fenywod ym mhob sector, i fenywod sydd wedi sefydlu busnesa neu fenywod sydd wrth gam cynnar yn y broses o ddatblygu busnes newydd. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.