Ewch i’r prif gynnwys

Medicentre yn croesawu cynrychiolwyr o'r UE

31 Gorffennaf 2018

Manumix

Fe wnaeth grŵp o 20 o gynrychiolwyr yr UE gwrdd ag arloeswyr clinigol blaenllaw yn ystod taith o gwmpas Medicentre Caerdydd.

Aeth y cynrychiolwyr ar daith ysbrydoledig o gwmpas y Medicentre fel rhan o weithdy 'Taith Ddysgu' Arloesedd Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu arferion gorau arloesedd a gweithgynhyrchu gyda phartneriaid o Ewrop fel rhan o'r fenter gwerth €937,661 sydd wedi'i hariannu gan yr UE, MANUMIX.

Mae'r prosiect pedair blynedd yn cynnwys consortiwm o bedwar rhanbarth Ewropeaidd – Gwlad y Basg, Lithwania, Finpiedmonte a Chymru.

Mae'n hybu arferion gorau drwy arddangos polisïau arloesedd, a hynny wrth wella'r systemau gwerthuso presennol.  Cymru yw'r pedwerydd rhanbarth yn y consortiwm i gynnal y gweithdy 'taith ddysgu'.

Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i gwrdd ag arloeswyr o Gymru i adolygu effaith offerynnau a pholisïau. Roedd hyn yn cynnwys ymweliad â Medicentre Caerdydd – canolfan meithrin busnesau ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd yr Athro Ian Weeks, Deon Arloesedd Clinigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd:

"Mae'r cynrychiolwyr wedi cael cyfle i weld yn uniongyrchol y rôl hanfodol sydd gan Medicentre Caerdydd o ran dod a'r llywodraeth, y byd academaidd, y GIG, a busnesau at ei gilydd i ddatblygu syniadau gofal iechyd arloesol y dyfodol heddiw.  Wrth i ni ddathlu 70 mlynedd ers i'r GIG gael ei sefydlu, gallai partneriaethau cydweithredol fel ein partneriaeth ni fod yn hynod bwysig er mwyn gwella gofal iechyd a chynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad economaidd am genedlaethau i ddod."

Wrth sôn am lwyddiant y gweithdy, dywedodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Ariannol a Llywodraeth Leol:

"Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chynnal ein partneriaethau yn Ewrop ac mae'r gweithdy taith ddysgu hwn yn cynnig platfform delfrydol ar gyfer arddangos Cymru fel economi sy'n edrych tuag allan ac sydd â'r arbenigedd technegol i ddod yn ganolfan arloesedd fyd-eang."

I gael rhagor o wybodaeth am 'Daith Ddysgu' Llywodraeth Cymru a phrosiect MANUMIX, ewch i www.interregeurope.eu/manumix/

Rhannu’r stori hon