Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi buddsoddiad mawr yn niwydiannau creadigol Cymru

7 Medi 2018

Filming

Mae’r diwydiannau sgrîn sydd wedi’u lleoli ym mhrifddinas Cymru a’r cyffiniau am fanteisio ar gyfleoedd ymchwil a datblygu newydd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi arwain cynnig llwyddiannus i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), a fydd heddiw’n cyhoeddi buddsoddiad ymchwil digynsail gwerth miliynau lawer o bunnoedd yn economi greadigol y DU. Bydd y Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yn dod â thalent ymchwil o’r radd flaenaf ynghyd o brifysgolion gorau’r DU a chwmnïau a sefydliadau o bob rhan o’r sector creadigol.

Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, pob un o’r prif ddarlledwyr yng Nghymru, a thros 60 o fusnesau’r diwydiant, mae Clwstwr Creadigol yn un o naw prosiect sydd wedi’u dewis ar gyfer y ffrwd ariannu 5 mlynedd.

Gyda ffocws ar y diwydiannau sgrîn - cynhyrchiant ffilm a theledu a’u cadwyni cyflenwi - bydd academyddion o dair prifysgol Caerdydd yn cydweithio i lunio gwaith ymchwil a all helpu’r sîn yn ne Cymru, sydd eisoes yn ffynnu, i gyrraedd ei llawn botensial.

Drwy System Arloesedd Sgrîn (SAS) a Labordy Arloesedd Newyddion (LAN) bydd y rhaglen Ymchwil a Datblygu (Y a D) hefyd yn caniatáu i ddarlledwyr, busnesau a gweithwyr llawrydd wneud cais am arian i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau arloesol mewn ymgais i roi hwb economaidd i dde Cymru.

Caiff y mentrau Y&D hyn eu dylunio i ymateb i dechnolegau newidiol, patrymau defnydd newidiol a’r manteision o ymasiad a chydweithrediad creadigol.

Dywedodd Justin Lewis, Athro-Gyfarwyddwr Clwstwr Creadigol, sy’n gweithio yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Rwy’n falch o waith caled ein tîm yn sicrhau’r wobr hon i Gymru. Mae’n gyfle gwych i roi hwb i broffil Caerdydd fel canolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol am gynhyrchu creadigol.

“Mae’r sylfeini ar gyfer llwyddiant wedi’u gosod gan rai o’n cwmnïau gwych yn y diwydiant sgrîn a’r economi greadigol ehangach. Ond i ffynnu yng ngwir ystyr y gair, rhaid i ni fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu i greu diwylliant o arloesi - dyna beth yw Clwstwr Creadigol yn ei hanfod.

Mae’r diwydiannau creadigol yn y DU, sy’n bwerdy ar gyfer twf, yn cyfrannu mwy na £90bn y flwyddyn at yr economi[ii]. Roedd angen i bob un o’r cynigion partneriaeth ddangos sut y byddai’n sicrhau llwyddiant masnachol newydd er budd y DU gyfan ac yn dod â chynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i’r farchnad.

Bydd y gwaith sy’n cael ei sbarduno gan y partneriaethau hyn yn helpu i ddiogelu a gwella safle byd-eang arweiniol y DU yn y diwydiannau creadigol, sy’n allforio gwerth tua £46bn mewn nwyddau a gwasanaethau yn flynyddol - y sector sy’n tyfu gyflymaf yn economi’r DU[i].

O dan arweiniad Nesta, sy’n sefydliad arloesedd byd-eang, a phartneriaid ledled y DU, bydd Canolfan Polisi a Thystiolaeth newydd ar gyfer y sector yn cysylltu sefydliadau yn y diwydiannu creadigol, cymunedau ymchwil a llunwyr polisïau er mwyn datblygu tystiolaeth a dadansoddiadau sy’n gallu llywio penderfyniadau ar draws y diwydiant a chynnig sail ar gyfer polisïau yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.