Ewch i’r prif gynnwys

Cyfryngau Cymraeg dan y chwyddwydr

3 Awst 2015

Video camera

Nid yw darlledu cyfrwng Cymraeg 'erioed wedi bod mor bwysig', yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru

Nid yw'r achos ar gyfer buddsoddi arian cyhoeddus i gefnogi darlledu cyfrwng Cymraeg "erioed wedi bod mor glir", meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, cyn trafodaeth fawr ar Faes yr Eisteddfod a fydd yn edrych ar ddyfodol y cyfryngau cyfrwng Cymraeg.

Bydd Rhodri Talfan Davies yn ymuno ag uwch ffigurau'r diwydiant mewn dadl a gaiff ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd i drafod beth mae rhai yn ei alw 'yr argyfwng mwyaf difrifol i wynebu darlledu cyfrwng Cymraeg ers sefydlu S4C dros 30 mlynedd yn ôl'. 

Cynhelir y digwyddiad ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar y Maes rhwng 1200 a 1400, ddydd Llun 3 Awst. 

Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Mr Talfan Davies: "Nid yw darlledu cyfrwng Cymraeg ar draws y radio, y teledu a'r rhyngrwyd erioed wedi bod mor bwysig. Ac nid yw'r achos ar gyfer buddsoddi arian cyhoeddus i'w gefnogi, erioed wedi bod mor glir.

"Felly mae'n hanfodol bod gan y cyhoedd lais go iawn yn y ddadl am ddyfodol darlledu cyhoeddus yng Nghymru."

Ar y panel hefyd fydd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a Dr Rhodri ap Dyfrig, arbenigwr yn y cyfryngau torfol.

Bydd Sara Moseley, o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, a'r bargyfreithiwr a'r darlledwr Gwion Lewis, yn cymryd rhan yn y digwyddiad hefyd.

"Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad o ran addysgu newyddiadurwyr blaenllaw'r DU ers tro byd, ac rydym wedi gweithio'n galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg, i ehangu'r hyn sydd ar gael gennym yn Gymraeg. Mae'n bwysig iawn i ni ein bod yn rhan o'r gwaith o lunio a chefnogi sector sy'n hollbwysig i Gymru ac i'r iaith Gymraeg,” dywedodd Sara Moseley cyn y digwyddiad.

Mae'r drafodaeth yn cael ei chynnal gan y Brifysgol, BBC Cymru Wales, S4C, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n hyrwyddo defnydd y Gymraeg mewn prifysgolion, a Rondo Media, cwmni cynhyrchu yng Nghymru.

Bydd yn cyffwrdd â rhai o'r pynciau a godwyd yn y gyfres ar BBC Radio Cymru a gynhyrchwyd gan Rondo, Cyflwr y Cyfryngau, a gyflwynir gan Gwion Lewis ac sy'n edrych ar gyflwr y cyfryngau yng Nghymru.

Bydd y drafodaeth yn cael ei recordio ar gyfer pennod olaf Cyflwr y Cyfryngau.

Dywedodd Gwion Lewis: "Mae darlledu cyfrwng Cymraeg yn wynebu ei argyfwng mwyaf difrifol ers sefydlu S4C ym 1982.

"Mae angen taer am ddadl genedlaethol am swyddogaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru heddiw, a'r ffordd orau o'i ariannu yn yr oes ar ôl datganoli."

Daw'r drafodaeth wrth i benderfyniadau ynghylch ariannu a chyfeiriad y cyfryngau cyfrwng Cymraeg gyrraedd pwynt hollbwysig.

Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig newydd gyhoeddi bod dyfodol darlledu yng Nghymru i fod yn destun ymholiad.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David Davies, y byddai'n canolbwyntio ar "ddarlun Cymru", gan gynnwys darlledu yn yr iaith Gymraeg.

Mae arian ar gyfer S4C wedi bod o dan y chwyddwydr hefyd ar ôl i weinidogion y DU gyhoeddi adolygiad pwysig o'r BBC.

Daw'r rhan fwyaf o incwm S4C o ffi trwydded y BBC, yn ogystal â rhywfaint o arian gan lywodraeth y DU ac incwm masnachol.