Gwyddonwyr yn canfod genyn “Carreg Rosetta” sgitsoffrenia
28 Gorffennaf 2015
![images of brain as scanned by MRI machine](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0018/100836/MRI-brain-image.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Canfyddiad pwysig yn datgelu dylanwad genyn mewn cyfnod bregus yn natblygiad yr ymennydd
Mae gwyddonwyr wedi canfod swyddogaeth hollbwysig yn yr hyn maen nhw’n credu yw genyn “Carreg Rosetta” sgitsoffrenia a allai fod yn allweddol i ddadgodio swyddogaeth holl enynnau’r clefyd.
Mae’r canfyddiad wedi datgelu cyfnod bregus yng nghyfnod cynnar datblygiad yr ymennydd a gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd modd ei dargedu mewn ymdrechion i wrth-droi sgitsoffrenia yn y dyfodol.
Mewn papur a gyhoeddir heddiw yn y cyfnodolyn Science, mae niwrowyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn disgrifio sut y datgelwyd dylanwad y genyn nad oedd neb yn gwybod amdano cyn hyn i sicrhau datblygiad iach yr ymennydd.
Gelwir y genyn yn ‘disrupted in schizophrenia-1’ (DISC-1). Mae astudiaethau yn y gorffennol wedi dangos bod y genyn yn ffactor risg uchel ar gyfer salwch meddwl pan fydd wedi mwtanu, gan gynnwys sgitsoffrenia, iselder clinigol difrifol ac anhwylder deubegwn.
Amcan yr astudiaeth ddiweddaraf hon oedd pennu a oedd rhyngweithiadau DISC-1 gyda phroteinau eraill, yn gynnar yn ystod datblygiad yr ymennydd, yn effeithio ar allu’r ymennydd i addasu ei strwythur a’i swyddogaeth (a elwir yn ‘blastigrwydd’) yn ddiweddarach mewn oedolaeth.
Cyn hyn, dangoswyd fod gan lawer o enynnau sy’n gyfrifol am greu proteinau synaptig gyswllt cryf â sgitsoffrenia ac anhwylderau eraill ar yr ymennydd, ond hyd yma doedd y rhesymau ddim wedi’u deall.
Er mwyn i synapsau’r ymennydd ddatblygu’n iach, canfu’r tîm, dan arweiniad yr Athro Kevin Fox o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, fod rhaid i’r gennyn DISC-1 yn gyntaf rwymo gyda dau foleciwl arall a elwir yn ‘Lis’ a ‘Nudel’.
Datgelodd eu harbrofion mewn llygod y byddai atal DISC-1 rhag rhwymo gyda’r moleciwlau hyn - gan ddefnyddio cyffur sy’n rhyddhau protein o’r enw Tamoxifen ar gam cynnar yn natblygiad yr ymennydd – yn arwain at ddiffyg plastigrwydd ar ôl cyrraedd oedolaeth, a fyddai’n atal celloedd (niwronau cortical) yn rhanbarth mwyaf yr ymennydd rhag gallu ffurfio synapsau.
O ganlyniad i hyn, caiff y gallu i ffurfio meddyliau trefnus a chanfod y byd yn gywir ei niweidio.
Doedd dim effaith ar blastigrwydd i’w weld wrth atal DISC-1 rhag rhwymo gyda moleciwlau ‘Lis’ a ‘Nudel’ ar ôl i’r ymennydd ffurfio’n llawn. Fodd bynnag roedd yr ymchwilwyr yn gallu pennu ffenest o saith diwrnod yn gynnar yn natblygiad yr ymennydd - un wythnos ar ôl geni - pan fyddai methu â rhwymo’n cael effaith anwrthdroadwy ar blastigrwydd yr ymennydd yn ddiweddarach mewn bywyd.
“Rydyn ni’n credu mai DISC-1 yw genyn “Carreg Rosetta” sgitsoffrenia a gallai ddal yr allwedd i’n helpu ni i ddatgloi ein dealltwriaeth o’r rôl sydd gan yr holl enynnau risg yn y clefyd,” dywedodd yr Athro Fox.
“Mae potensial yr hyn rydyn ni’n ei wybod nawr am y genyn hwn yn anferthol. Rydyn ni wedi dynodi cyfnod hanfodol yn ystod datblygiad yr ymennydd sy’n ein harwain i gynnal profion i weld a yw genynnau risg sgitsoffrenia eraill, sy’n effeithio ar rannau gwahanol o’r ymennydd, yn camweithio yn ystod eu cyfnod hanfodol eu hunain.
“Yr her o’n blaenau yw darganfod ffordd i drin pobl yn ystod y cyfnod hanfodol hwn neu ddod o hyd i ffyrdd i wrthdroi’r broblem yn ystod oedolaeth drwy roi plastigrwydd yn ôl i’r ymennydd. Gobeithio y gallai hyn, un diwrnod, helpu i atal ymddangosiad neu ddychweliad symptomau sgitsoffrenia yn llwyr.”
Dywedodd yr Athro Jeremy Hall, clinigwr iechyd meddwl academaidd a chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd:
“Mae’r papur hwn yn darparu tystiolaeth arbrofol gref fod newidiadau bach yn gynnar mewn bywyd yn gallu arwain at effeithiau mwy o lawer mewn oedolaeth. Mae hyn yn helpu i egluro sut y gall digwyddiadau ym more oes gynyddu’r perygl o anhwylderau iechyd meddwl mewn oedolion fel sgitsoffrenia.”
Mae sgitsoffrenia’n effeithio ar o ddeutu 1% o’r boblogaeth fyd-eang a bydd tua 635,000 o bobl yn y DU ar ryw adeg yn cael eu heffeithio gan y cyflwr. Amcangyfrifir mai costau sgitsoffrenia i gymdeithas yw tua £11.8 y flwyddyn.
Gall symptomau sgitsoffrenia fod yn eithriadol o aflonyddgar, a chael effaith fawr ar allu unigolyn i ymgymryd â thasgau bob dydd, fel mynd i’r gwaith, cynnal perthynas â gofalu amdano’i hun neu bobl eraill.
Cyllidwyd yr ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) a’r Sefydliad Iechyd Cenedlaethol (NIH).