Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu yn nerbyniad graddio’r Ysgol

6 Awst 2018

Cynhaliwyd seremoni a derbyniad graddio Ysgol y Gymraeg ddydd Iau 19 Gorffennaf 2018.

Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol oedd lleoliad y derbyniad. Roedd yn gyfle i raddedigion a’u teuluoedd ddathlu’r garreg filltir gyda chyfoedion a staff yr Ysgol dros canapés a gwin.

Eleni, roedd yr Ysgol yn dathlu llwyddiant 36 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Ymysg y graddedigion israddedig, derbyniodd chwe myfyriwr radd Dosbarth Cyntaf. Cyflwynwyd 11 myfyriwr ar gyfer gradd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a phedwar ar gyfer PhD.

Yn ystod y derbyniad cyflwynodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Wobrau Coffa G. J. Williams i Elin Arfon ac Osian Morgan. Gwobrau yw’r rhain er cof am yr ysgolhaig nodedig a fu’n darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd am 36 o flynyddoedd. Mae’r gwobrau’n cydnabod cyraeddiadau academaidd a chanlyniadau gradd derfynol y myfyrwyr buddugol.

Dywedodd Dr Foster Evans: “Mae’r diwrnod graddio yn achlysur arbennig iawn i bawb ac rydym ni fel Ysgol yn ymfalchïo yn llwyddiant ein graddedigion. Edrychwn ymlaen yn arw at glywed am eu llwyddiannau wrth iddynt ddechrau ar yrfa newydd neu ymgymryd ag astudiaethau pellach.”

Bydd sawl myfyriwr yn dychwelyd i’r Ysgol ym mis Medi i astudio ar gyfer gradd uwch ac mae eraill wedi sicrhau swyddi mewn ystod eang o sectorau. Mae’r Ysgol yn dra llwyddiannus wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle gyda’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 91% o israddedigion yn gweithio neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2016/17).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.