Ewch i’r prif gynnwys

Edrych ar oruchafiaeth un blaid yng Nghymru

1 Awst 2018

Roger Scully

Bydd cyfathrebwr gwleidyddol y flwyddyn yn trin a thrafod goblygiadau goruchafiaeth un blaid ym mywyd gwleidyddol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd yr Athro Roger Awan-Scully, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn trafod pam mae'r Blaid Lafur wedi ennill pob etholiad cyffredinol yng Nghymru ers bron i ganrif.

Mae Llafur wedi ennill mwyafrif y pleidleisiau a seddi yng Nghymru ym mhob un o'r 26 etholiad cyffredinol diwethaf yn y DU.

"Y person olaf i drechu Llafur mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru oedd Lloyd George - ac roedd hynny’n syth ar ôl iddo ennill rhyfel byd!" meddai'r Athro Awan-Scully.

"Mae profiad Cymru o wleidyddiaeth ddemocrataidd wedi bod yn anarferol ers amser maith, a gellir dadlau ei fod yn batholegol.

"Yn y sgwrs hon, byddaf yn trafod beth sydd wedi achosi canrif o oruchafiaeth Llafur dros wleidyddiaeth yng Nghymru, a goblygiadau hynny."

Bydd yr Athro Awan-Scully yn trin a thrafod pam mae goruchafiaeth Llafur yng Nghymru wedi bod mor barhaol, er bod y rhesymau dros gynnydd y blaid wedi hen ddiflannu.

Mae’r sgwrs yn seiliedig ar ei lyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi, ‘Elections in Wales’ (Etholiadau yng Nghymru).

Bydd y gwyddonydd gwleidyddol blaenllaw, a enwyd yn gyfathrebwr gwleidyddol y flwyddyn gan Gymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol, yn trafod y pwnc hwn ym mhabell Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 8 Awst (13:00).

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd rhwng 3 ac 11 Awst.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch ragor am beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.